Cartref digidol diwylliant Cymru.

Together For Change

Cafodd Together for Change ei sefydlu yn 2020 gan Solva Care, yr elusen fach yng Ngorllewin Cymru, mewn partneriaeth gyda’r Pembrokeshire Association of Voluntary Service (PAVS) a PLANED. Mae’n gynllun gwaith sydd yn blaenoriaethu lles, ffyniant a chynaliadwyedd cymunedau ynghanol polisïau a strategaethau sefydliadau a phartneriaethau ar draws y sir a’r rhanbarth. Credom y dylai strategaethau gael eu selio ar fodel holistig a llesol sydd yn adlewyrchu llais y bobl ac yn ymwneud a’r gymuned. Mae hyn yn galw am newid mewn rhannu pŵer ar draws ein cymunedau, grwpiau cymunedol a sefydliadau cyhoeddus. Mae’n gynllun yn cefnogi ac atgyfnerthu partneriaethau traws-sector sydd yn gweithio ar ddatblygu synnwyr pwrpasol, dealltwriaeth o asedau cymuned a thyfu prawf o brosiectau gyda ffocws cymunedol.

Cynnwys