Cartref digidol diwylliant Cymru.

KINO ANKST

Organisation Logo

KINO ANKST – Mae Emyr Glyn Wiliams yn awdur arobryn, gwneuthurwr ffilmiau, pennaeth label a rhaglennydd sinema. Fe’i ganed ym 1966, The Year POP! exploded, a mae ei ddiddordeb yng ngrym ac effaith diwylliant amgen Cymraeg ar y blaned yn dyddio’n ôl i’r pwynt hwn. Gyda Ankst Records marchogodd don Cool Cymru yn y 1990au er mwyn glanio ar lannau tawel byd label Ankstmusik yn y ganrif newydd. Defnyddiodd ei ffilm gyntaf a enillodd BAFTA, Y LLEILL (The Others) (2006) sinema i archwilio’r defnydd o iaith, pob iaith – Saesneg, Cymraeg, Cerddoriaeth, Gweledol – ar fywyd modern Cymru. Mae ei ddefnydd parhaus o ddelweddau a cherddoriaeth i ymchwilio i fewn i realiti byw yn y Gymru fodern ers diwedd y 1980au wedi cynhyrchu dwsinau o fideos cerddoriaeth a rhaglenni dogfennol. (BANANA, SAUNDERS LEWIS V ANDY WAROL, CRYMI, JYS,JYS,JYST FEL Y FFILMS) Mae ei waith fel awdur wedi canolbwyntio ar sylwebaeth ddiwylliannol (cylchgrawn a gwefan O’R PEDWAR GWYNT) a cynhyrchu teitlau fel IS DEITLA-N UNIG (2015) (a enwebwyd fel llyfr Cymraeg y flwyddyn) sydd yn daith bersonol i fewn i fyd y ffilm dramor, ei hanes a’i hud a’i lledrith.Mae’r llyfr yn gyfuniad unigryw o hunangofiant, dathliad, llythyr caru a galwad i’r gâd. Llyfr sy’n bodoli er mwyn annog i fodolaeth Sinema Newydd yn y Gymraeg. Fel rhaglennydd ffilm, pennaeth cwmni recordiau, cyfrannwr ac ysgrifennwr llyfrau sy’n defnyddio’r Gymraeg ym mhopeth y mae’n ei wneud, mae’n credu’n gryf bod angen byw profiad a diwylliant Cymru yn gyntaf a archwiliwo’r byw yna yn ail.

Cynnwys