Mewn partneriaeth â S4C, rydym yn falch o gyhoeddi heddiw ein bod yn lansio Cronfa Ffilm Gymunedol newydd i gefnogi gwneuthurwyr ffilm i adrodd straeon o’u cymunedau lleol yn Gymraeg.
Bydd y cynllun yn comisiynu 15 o ffilmiau dros y flwyddyn a hanner nesaf, gyda gwneuthurwyr ffilm llwyddiannus yn derbyn £500 yr un i greu ffilm fer am unrhyw agwedd ar fywyd cymunedol. Bydd tair rownd ymgeisio yn cael eu cynnal dros y deunaw mis, gyda phum prosiect yn cael eu dewis ym mhob rownd, gan gynrychioli cyfanswm buddsodiad o £7,500.
Mae’r cynllun newydd yma yn adeiladu ar lwyddiant partneriaeth flaenorol S4C a PYST Cyf (sydd hefyd yn gyfrifol am Am) i gefnogi bandiau ifanc i greu eu fideo cerddoriaeth Gymraeg gynraf, yn ogystal â llwyddiant cynllun adrodd straeon cymunedol AmCam.
Bydd y ffilmiau i’w gweld ar blatfform Am yn gyntaf ac yna ar gael ar blatfformau digidol S4C.
Dywedodd Lea Glyn, Pennaeth Cynnwys Am, “Roedden ni’n gweld galw cynyddol gan bobl oedd eisiau adrodd straeon yn ddigidol ond ddim o reidrwydd eisiau dilyn hyfforddiant ffurfiol mewn gwneud ffilmiau. Yr hyn sy’n bwysig iddyn nhw yw’r stori ei hun a’r gymuned maen nhw’n perthyn iddi.
“Drwy AmCam, gwelon ni fod gan bobl ledled Cymru straeon difyr a phwysig i’w hadrodd am eu cymunedau. Mae llawer eisoes yn creu cynnwys ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol ac yn gyfforddus yn gweithio gyda fideo, ond yn aml yn brin o’r adnoddau neu’r cyfle i ddatblygu prosiect ffilm.
“Roedd yr ymateb i AmCam yn hynod gadarnhaol, gyda dros 80 o geisiadau dros y rowndiau sydd wedi bod. Felly, rydyn ni’n falch iawn o gael gweithio gyda S4C i ehangu’r cynllun a chefnogi mwy o egin wneuthurwyr ffilm ledled Cymru.”
Meddai Llinos Wynne, Pennaeth Dogfennau a Ffeithiol Arbennig S4C, “Rwy’n hynod falch fod S4C yn cydweithio gyda Am ar y cynllun ffilmiau cymunedol.
“Mae angerdd a balchder yn ein cymunedau yn allweddol wrth inni geisio meithrin dealltwriaeth ddyfnach rhwng diwylliannau gwahanol. Pa ffordd well o rannu’r cyfoeth yma na thrwy greu ffilmiau digidol sy’n dathlu ein straeon, ein treftadaeth a’n hunaniaeth, tra hefyd yn creu cofnod hanesyddol werthfawr.”
Un o’r gwneuthurwyr ffilm a gafodd gefnogaeth drwy gynllun AmCam oedd Ffion Pritchard o Fangor.
Dywedodd hi, “Mae ffilm yn ffordd mor bwerus o gyfleu profiadau cymunedau, a da ni’n byw yn oes y fideo. Mae pobl yn fwyfwy cyfarwydd â derbyn gwybodaeth a straeon drwy fideo ar y cyfryngau cymdeithasol ac ati.
“Ro’n i wrth fy modd gyda’r rhyddid creadigol oedd yna wrth weithio gydag Am, sydd yn beth eithaf prin, a hefyd pa mor hygyrch oedd y broses ymgeisio. Roedd y ffurflen gais yn fyr ac yn syml, ac roedd hyd yn oed modd gwneud cais drwy fideo. Mae’r elfennau hyn i gyd yn gwneud y cyfle yn llawer mwy agored i bawb.”
Roedd ffilm Ffion yn dilyn prosiect celf gymunedol oedd yn ceisio cynyddu hyder merched, o’r enw Pwy Ydw i Heddiw?
Mae prosiectau eraill sydd wedi derbyn cefnogaeth drwy’r cynllun wedi cynnwys hanes Gwylwyr y Glannau, criw papur bro lleol, a grŵp o wirfoddolwyr yn creu arddangosfeydd blodau yn yr Ardd Fotaneg Genedlaethol.
Bydd y ffilmiau a gomisiynir drwy’r Gronfa Ffilm Gymunedol newydd yn cael eu dangos ar blatfform digidol Am a ein cyfryngau cymdeithasol, ac ar blatfformau digidol S4C.
Mae’r rownd ymgeisio gyntaf bellach ar agor, a’r dyddiad cau yw 31 Gorffennaf. Bydd pum prosiect yn cael eu comisiynu yn y rownd hon.
Ewch amdani i wneud cais nawr!