Cartref digidol diwylliant Cymru.

Cronfa Ffilmiau Cymunedol Am x S4C: Canllawiau

Os hoffwch gael sgwrs am eich cais, cysylltwch gydag am@pyst.net.

 

Beth yw pwrpas y gronfa?
Pwrpas y gronfa hon yw comisiynu ffilmiau byrion cymunedol yn yr iaith Gymraeg. Gall y ffilmiau ymdrin ag unrhyw weithgaredd gymdeithasol neu ddiwylliannol yn y gymuned, mewn modd ddogfennol neu greadigol. Cefnogir y gronfa hon gan S4C.

 

Ym mha fformat fydd fy ffilm?
Bydd angen i’r ffilm fod drwy gyfrwng y Gymraeg ac o 7-15 munud o hyd. Gellir cyflwyno’r ffilmiau ar ffurf MP4 neu MOV.

 

Beth yw’r broses ymgeisio?
Bydd tair ffenest i ymgeisio dros 18 mis, gyda 5 ffilm yn cael eu dewis ym mhob ffenestr. Dyddiadau cau y ffenest gyntaf ydy Gorffennaf 31. Bydd dyddiadau’r ail a thrydydd ffenest yn cael eu cyhoeddi cyn bo hir.
Gallwch ymgeisio drwy gwblhau’r ffurflen yma. Mae modd gwneud cais ar ffurf fideo neu sain – cysylltwch gydag am@pyst.net i drafod hyn, neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau pellach.

 

Sut bydd y ffilmiau yn cael eu dethol?
Bydd y ffilmiau yn cael eu dethol gan banel annibynnol. Os nad ydych yn llwyddiannus yn y ffenestr gyntaf, mi allwch ymgeisio eto.

 

Erbyn pryd bydd angen i mi gyflwyno fy ffilm?
Bydd angen i chi gyflwyno eich o ffilm o fewn 4 mis i ddyddiad y cytundeb.

 

Sut bydd y ffilmiau yn cael eu darlledu?
Bydd y ffilmiau yn cael eu ddarlledu am y tro cyntaf ar Am a’u hyrwyddo ar ein cyfryngau cymdeithasol, cylchlythyron ac mewn gofodau hysbysebu eraill. Bydd Am yn cysylltu gyda chi i drafod dyddiad darlledu ar ôl i chi gyflwyno eich ffilm.

 

Bydd angen i mi isdeitlo fy ffilm?
Bydd y ffilmiau yn cael eu hisdeitlo yn ddwyieithog gan gwmni Cyfatebol, a felly mae gofyn i chi gyflwyno eich ffilm heb unrhyw isdeitlau. Bydd Am yn talu am y gost isdeitlo. Gellir trafod steil isdeitlau eich ffilmiau gydag aelod staff Am ar ddechrau’r broses.

 

Be fydd y taliad ar gyfer y ffilm?
Byddwch yn derbyn £500 (+TAW os yn berthnasol) tuag at gostau creu eich ffilm. Bydd £350 yn cael ei dalu i chi pan rydych yn arwyddo’r cytundeb, a’r £150 sydd yn weddill pan mae’r ffilm yn cael ei chyflwyno.

 

Sut mae’r hawliau yn gweithio?
Bydd hawliau’r ffilm yn gorffwys gyda’r gwneuthurwr ffilm. O arwyddo cytundeb, byddwch yn cadarnhau bod yr holl hawliau ar gyfer bob elfen o gynnwys y ffilm wedi eu sicrhau ar gyfer darllediad ar Am, ac na fydd unrhyw hawlio yn digwydd gan neb arall. Bydd y ffilm yn cael ei ddarlledu am y tro cyntaf ar Am, a bydd yn byw yno yn ecsgliwsif yn ddigidol am gyfnod o fis ac yna gallwch ei rannu fel y dymunir.

 

Ymgeisiwch nawr

RHANNWCH