Wrth dyfu i fyny mewn tref ddiwydiannol fach ar arfordir gorllewinol Norwy, dechreuais ddawnsio yn ifanc iawn, a helpodd hyn fi i ddarganfod rhyw fath o ryddid sydd wedi aros gyda mi drwy gydol fy mywyd. Penderfynais yn gynnar iawn wneud dawns yn llwybr gyrfa i mi fy hun, ac es ymlaen i hyfforddi’n broffesiynol yn yr Almaen a’r DU. Ar ôl symud i Gymru yn gynnar yn y 90au, gwelais gyfleoedd yn fuan iawn i rannu fy sgiliau dawns gyda fy nghymuned lleol a sefydlais fy ymarfer fy hun fel athro, perfformiwr a choreograffydd. Roeddwn i’n ffodus iawn i fod yn rhan o ddatblygiadau cynnar dawns gymunedol, a arweiniodd fi i sefydlu’r cwmni Dawns i Bawb ym 1996, a redes i am y chwe mlynedd cyntaf nes i mi ymuno â Chyngor Celfyddydau Cymru fel Uwch Swyddog Dawns. Daethum yn eiriolwr angerddol dros ddawns mewn llunio polisïau, cyllid a strategaethau i gefnogi a thyfu’r ffurf gelf.
Rwy’n teimlo’n ostyngedig ac yn falch o allu dweud fy mod wedi cael gyrfa hir a ffrwythlon mewn dawns sy’n ymestyn dros bron i 40 mlynedd, ac mae fy ymarfer creadigol yn parhau i dyfu ac esblygu, gyda choreograffi, addysgu, dawnsio, creu a chynhyrchu gwaith gydag ac ar gyfer eraill. Mae’n teimlo’n dda defnyddio fy nghês mawr sy`n llawn profiadau o bopeth sy’n ymwneud â dawns, cyllido, rheoli prosiectau a gwybodaeth am strwythurau ariannu celfyddydau cenedlaethol a rhyngwladol yn fy rôl fel ymgynghorydd a hyfforddwr. Rwy’n parhau i jyglo’r gwahanol linynnau hyn o fy ymarfer, gan greu fy ngwaith fy hun ochr yn ochr â chefnogi artistiaid eraill fel cynhyrchydd, mentor a hwylusydd. Rwyf wedi bod yn arbenigo mewn datblygu dawns gyda phobl hŷn, mewn cartrefi gofal, a dawns i bobl sy’n byw gyda Dementia a Parkinson’s. Fel person amlieithog a dysgwr Cymraeg, rwy’n mwynhau prosiectau sy’n gweithio gydag iaith a chorff yn arbennig, lle nad ydym o reidrwydd yn cyfieithu, ond yn hytrach yn trosglwyddo ein syniadau ar ffurf gorfforol.
Drwy gydol fy ngyrfa, rwyf wedi parhau i weithio yn fy ngwlad enedigol, Norwy, a fy nghartref yma yng Nghymru. Mae wedi bod yn bwysig i mi adeiladu cysylltiadau ar gyfer deialog ryngwladol drwy fy nghelf, gan fy mod yn credu ym mhŵer y celfyddydau i adeiladu pontydd ac ehangu gorwelion. Mae’r gwaith yma yn cynnig pwyntiau mynediad i ffyrdd eraill o feddwl a theimlo i’r arferol. Rwyf wedi bod yn awyddus iawn i greu cyfleoedd i bobl ifanc gwrdd drwy gelf, gan y gall y profiadau hyn newid trywydd bywyd.
Prosiectau creadigol diweddar:
Close(d) Border Connection gyda Gullbakken – Norwy
Revolutionary gyda Theatr Volya – Norwy
4 Tymor / 4 Seasons gyda Chynhyrchiadau Cwmni Pen – Cymru
Prosiectau fel Cynhyrchydd diweddar:
Grief Encounters – Cai Tomos, Cymru
Revolutionary – Theatr Volya, Norwy
Cwmnïau
Sylfaenydd Dawns I Bawb, Cymru
Cyd-sylfaenydd a chyd-gyfarwyddwr Cwmni Pen Productions, Cymru
Cyd-sylfaenydd a chyd-gyfarwyddwr Theatr Volya, Norwy
Gwaith Mynediad a Chymorth
Hyfforddwr Ymgeisio – Cyngor Celfyddydau Cymru
Mentor Artistiaid – Cyngor Celfyddydau Cymru
Cefnogaeth Hyfforddwr a Mentor i artistiaid – Llawrydd
Sgiliau
Perfformio, Cynhyrchu, Coreograffi, Addysgu a Hwyluso

