Cartref digidol diwylliant Cymru.

Mae ein prosiectau Egin wedi dechrau!

Cymuned

Mae Woody’s Lodge, Penlan yn elusen sy’n cefnogi cyn-filwyr ac aelodau o’r gwasanaethau argyfwng a’u teuluoedd, gyda rhwydwaith o safleoedd ledled Cymru. Ar safle Woody’s Lodge yn Sir Gaerfyrddin, mae ganddyn nhw 11 erw o goed aeddfed, gerddi a phorfa. Maent yn cynnig ystod o weithgareddau i gefnogi eu haelodau.

Cysyllton nhw ag Egin ynglŷn â chynlluniau ar gyfer safle rhandiroedd, prosiect tyfu bwyd a busnes sudd afal. Gan ddefnyddio eu profiad o weithio gyda phrosiectau garddwriaethol eraill, siaradodd y Mentoriaid Cymheiriaid Cathryn a Louise am wahanol opsiynau gyda staff Woody; defnyddiau tir posibl, microhinsoddau ecolegol, cyfleoedd ariannu, a meithrin brwdfrydedd.

“Rwy’n gobeithio y bydd creu cysylltiadau trwy nodau cyffredin fel plannu coed a thyfu bwyd yn helpu i feithrin gwydnwch mewn unigolion a chymunedau,” meddai’r Mentor Cymheiriaid Cathryn Wyatt.

Mae Richard Rose, cydlynydd y grŵp newydd drefnu ei ddigwyddiad plannu coed cyntaf (i gynyddu diddordeb yn y mentrau uchod), mae ganddo doiledau compost symudol ar y gweill, a thwnnel polythen gyda gwelyau yn barod ar gyfer eginblanhigion. Y cyfan wedi cychwyn dros y misoedd diwethaf!

RHANNWCH