Mwynhewch y pethau bychain ar Am!
I ddathlu Dydd Gŵyl Dewi 2026, mae Am yn falch o rannu 3 darn buddugol o lên-meicro
yn Tudalen; gofod digidol newydd ar ein gwefan i gyhoeddi llenyddiaeth wreiddiol o Gymru. Mae Tudalen yn cael ei gynnal mewn partneriaeth â Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a’i gefnogi gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
Gofynnwyd i’r ymgeiswyr ysgrifennu darnau o lên-meicro (hyd at 500 gair) iaith Gymraeg yn ymateb i’r thema ‘Portread’, a hynny i ddathlu arddangosfa ddiweddaraf Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ‘Portread a Phŵer’. Roedd 3 darn buddugol yn cael eu dewis gan Banel Beirniadu i’w cyhoeddi ar Tudalen, ac roedd yr ysgrifenwyr buddugol yn derbyn £100 yr un am eu gwaith.
Cafwyd ymateb wych i’r gystadleuaeth, gyda nifer fawr o geisiadau. Roedd tasg y Panel Beirniadu o ddewis y gwaith yn anodd, ond cafodd tri darn canlynol eu dethol. Dyma nhw, ynghyd â sylwadau’r Panel Beirniadu:
Dienw – Catrin Cheung
“Mae’r darn yn cychwyn gyda myfyrdodau’r sgwennwr ar liw paent wrth syllu ar hunanbortread, a sut y defnyddiodd artistiaid eraill yr un lliw i awgrymu emosiwn. Oddi yno, symudir yn esmwyth i’r 1980au, adeg ei genhedliad. Mae’n ddarn difyr a chraff sy’n cyffwrdd â phynciau dwys megis hunaniaeth, rhywioldeb, teulu a chreadigrwydd.”
Blwyddyn y Dylluan – Rolant Tomos
“Stori drawiadol a gwreiddiol am fywyd nos ‘croupier’. Mae gan y stori lais naratif cryf ac mae’n cynnig cipolwg diddorol ar fyd nos gweithwyr shifft. Dehongliad arbennig a chyffrous o ‘bortread’ yn ogystal â bod yn waith llên-meicro sy’n sefyll ar ei phen ei hun.”
Mair – Bethan Page
“Portread emosiynol o golled, gyda delwedd ganolog gref a naratif gafaelfar. Mae’r stori rhyfeddol hon yn cynnig cipolwg sensitif ar fywydau eraill, yn awgrymu byd emosiynol dwfn y tu hwnt i’r wyneb.”
Dywedodd Malachy Edwards, aelod o’r Panel Beirniadu ac Is-Gadeirydd Bwrdd PYST Cyf, y cwmni sydd yn rhedeg Am:
‘Roedd hi’n fraint eleni beirniadu’r gystadleuaeth newydd hon. Derbyniwyd nifer dda o geisiadau, gydag amrywiaeth o themâu’n cael eu harchwilio o dan y testun ‘Portread’. Hoffwn ddiolch i bawb a fu’n ddigon mentrus i gystadlu, ac estyn fy llongyfarchiadau i’r enillwyr!”
Ychwanegodd Eluned Gramich o Llyfrgell Genedlaethol Cymru, hefyd o’r Panel Beirniadu:
Rwyf mor falch o gael beirniadu’r gystadleuaeth llên meicro gyntaf hon i ddathlu lansio Tudalen. Cawsom lawer o gyflwyniadau ardderchog, ac roedd yn her dewis. Yn dweud hynny, roedd y ffordd y gwnaeth y tri enillydd ymdrin â’r thema ‘Portread’ yn llawn creadigrwydd, dychymyg a gwreiddioldeb. Hoffwn ddiolch i bawb a anfonodd eu hysgrifennu i ni ei ddarllen a’i fwynhau, a llongyfarch y tri enillydd teilwng!
Dywedodd Alun Llwyd, Prif Weithredwr PYST Cyf:
“Mae’n gyffrous gallu cynnig gofod digidol fel Tudalen ar gyfer ysgrifennu creadigol iaith Gymraeg, yn sicrhau bod gan gynulleidfaoedd Am fynediad cyfleus at greadigrwydd gwreiddiol ar-lein. Mae’n fraint cael cyhoeddi gwaith arbennig Catrin, Rolant a Bethan ar Tudalen – llongyfarchiadau enfawr iddyn nhw!”
Ewch i fwynhau’r straeon buddugol ar Tudalen nawr!