Wir Dduw, mae’n anodd gwybod pa un ai i chwerthin neu i grio.
Rydym yn byw mewn gwladwriaeth sydd wrthi’n gwneud difrod sylweddol i’r hyn sy’n weddill o’n heconomi trwy’n gwahanu oddi wrth ein prif farchnadoedd, a hynny wrth arwyddo cytundebau masnach newydd sy’n amlwg niweidiol i fuddiannau Cymru. Mae gennym lywodraeth yn Llundain sy’n ein hamddifadu o biliynau o bunnoedd y gallesid eu gwario ar ein hisadeiledd truenus o annigonol. Ar ben hynny, mae gennym lywodraeth yng Nghaerdydd sy’n parhau’n gyndyn i geisio mynd i’r afael o ddifrif â’r heriau mawr sy’n ein hwynebu fel cenedl, ond sy’n hytrach yn fwy cysurus yn beio eraill ac yn rhaffu geiriau gweigion.
A beth mae Plaid Cymru – y blaid sy’n honni ei bod yn rhoi Cymru’n gyntaf – yn ei wneud yn wyneb hyn oll? Mae’n diorseddu ei harweinydd heb unrhyw obadeia pwy neu beth a ddaw yn ei le gan sicrhau cyfnod o fogail-syllu solipsistaidd ar y union adeg pan ddylai’r blaid fod yn ceisio cynnig gweledigaeth amgen ar gyfer dyfodol gwell.
Wrth reswm, fe chwaraeodd Adam Price ei ran yn ei dranc ei hun. Heb ei fai heb ei eni, ys dywed yr hen air. Yn achos cyn-arweinydd Plaid Cymru, mae ganddo wendidau a oedd yn rhwym o olygu y byddai ei arweinyddiaeth yn destun rhwystredigaeth, yn enwedig i rai o’i gyd-aelodau etholedig.
Er ei fod yn ŵr sy’n ennyn teyrngarwch anghyffredin ymysg y rhai sydd agosaf ato, mae’n ffaith hefyd fod elfen swil a braidd yn ynysig i’w gymeriad. Un o effeithiau hyn, yn baradocsaidd, yw bod Price yn ŵr sy’n gallu swyno torfeydd mawr a grwpiau bach fel ei gilydd, ond mae’n llawer iawn llai cyffyrddus mewn grwpiau canolig eu maint. Nid oes ganddo’r gallu naturiol nac efallai’r amynedd i adeiladu synnwyr o esprit de corps ymyg criw ehangach o wleidyddion.
Serch hynny, mae ganddo gryfderau amlwg. Mae’n areithiwr tan gamp. Gall gyfathrebu’n gofiadwy o gryno ac effeithiol ar deledu a radio. Mae’n meddu ar ddiddordeb go iawn mewn polisi, a hyd yn oed os nad yw pob un o’i chwiwiau’n haeddu cael ei gymryd o ddifrif, bu’n ffynhonnell mwy o syniadau polisi creadigol nag unrhyw wleidydd Cymreig arall o’i genhedlaeth.
A siawns mai’r pwynt canolog yw hyn: roedd aelodau Plaid Cymru’n gwybod yn iawn pa fath o berson yr oeddynt yn ei ethol yn arweinydd eu plaid yn ôl ym mis Medi 2018. Nid oedd dirgelwch o fath yn y byd ynglŷn ag Adam Price, o ran ei wendidau na’i gryfderau chwaith. Bu’n rhan o fywyd Cymru, heb sôn am Blaid Cymru, yn rhy hir o lawer i ganiatáu i hynny allu bod yn wir. Eto i gyd, oherwydd yn bennaf oll agweddau rhai o aelodau grŵp y blaid yn Senedd Cymru, mae wedi cael mynd.
Er bod enwau’n cael eu trafod o gylch y byd gwleidyddol, mae’n drawiadol nad oes yr un o’r rheini y tybir eu bod â’u bryd ar weld Adam Price yn gadael y llwyfan wedi ceisio cyfiawnhau eu safbwyntiau’n gyhoeddus. O ystyried y siom syfrdanol yn adain wirfoddol y blaid yn dilyn ei ymddiswyddiad, go brin y byddant ar frys i wneud hynny chwaith. Ond os a phan ddigwydd hynny, gellir mentro y byddant yn crybwyll difrifoldeb yr hyn a ddadlennir ynglŷn ag ymddygiad rhai oddi mewn i’r blaid yn adroddiad Prosiect Pawb ynghyd â’r angen am lechen lân.
Yn sicr, nid oes angen darllen yn bell rhwng llinellau’r argymhellion a wnaed gan Nerys Evans i sylweddoli fod yna bethau cwbl annerbyniol wedi digwydd oddi mewn i rengoedd Plaid Cymru dros y blynyddoedd. Ond gan nad ydw i, mwy nag yw’r mwyafrif o ddarllenwyr BARN, wedi gweld cynnwys yr adroddiad ei hun, nid oes gennyf unrhyw fewnwelediad pellach i’w gynnig y tu hwnt i hynny. Gadewch i ni felly ganolbwyntio ar y cwestiwn amlwg sy’n codi yn sgil cyhoeddi’r argymhellion, sef beth nesaf? Ac yn fwy penodol, i ba raddau y mae ymddiswyddiad Adam Price yn ei gwneud yn haws neu’n anos diwygio’r blaid yn y modd y byddai’r rhan fwyaf o’i haelodau a’i chefnogwyr yn ei ddeisyfu?
Er mwyn canfod ateb rhaid cychwyn trwy wynebu gwirionedd y bydd llawer yn ei gael yn anodd ei lyncu, sef hyn: mae’r drwgweithredu a ddatgelir gan ymchwiliad Nerys Evans – bwlio ac aflonyddu yn fwyaf amlwg yn eu plith – yn bethau y mae’n anodd i unrhyw blaid ac yn wir unrhyw fudiad neu gorff neu hyd yn oed gwmni ddelio â hwy’n llwyddiannus.
Hyd yn oed os gall Plaid Cymru weithredu’r 82 argymhelliad a wnaed yn adroddiad Prosiect Pawb a hynny mewn ffordd ystyrlon sy’n golygu mwy na newid dros dro, ni fydd yr heriau na’r problemau fyth yn diflannu. Bydd pob un ohonom sy’n gweithio yn un o’r sefydliadau mawr hynny sy’n frith o staff HR ac yn drymlwythog o brosesau cysylltiedig (oes wir, mae gan Brifysgol Caerdydd ei chyfran) yn gallu tystio i hynny.
Ond mae’n rhaid bod yna amheuon go iawn ynglŷn â gallu mudiad mor fychan a distadl ei drefniadaeth â Phlaid Cymru – plaid sydd i raddau helaeth yn ddibynnol ar wirfoddolwyr – i ymroi i sefydlu prosesau adnoddau dynol sy’n ymddangos yn gostus ac yn feichus o ran adnoddau ac egnïon. Yn ymarferol bydd yn rhaid blaenoriaethu rhai argymhellion dros eraill a gwneud y gorau o bethau, yn enwedig felly gan fod yr amgylchedd gwleidyddol ehangach yn rhwym o olygu y bydd pethau eraill a fydd angen sylw ar yr un pryd, megis y cytundeb cydweithio â Llywodraeth Cymru a mater bach etholiad cyffredinol Prydeinig tua diwedd 2024…
O gydnabod hyn oll, onid yw’n eglur fod y rheini oddi mewn i Blaid Cymru sy’n gyfrifol am ddiorseddu Price wedi ei gwneud hi’n anos fyth delio â’i phroblemau mewnol? Hyd yn oed os gellir osgoi etholiad arweinyddol – ac yn bersonol rwyf ymhell o fod yn sicr y byddai coroni arweinydd newydd yn llesol i’r blaid yn yr hirdymor – bydd unrhyw olynydd yn gorfod treulio’r rhan fwyaf o’i amser/hamser yn meithrin proffil a hygrededd cyhoeddus, yn adeiladu perthynas waith hefo Llywodraeth Cymru yng nghyd-destun y negodi manwl sy’n rhan annatod o’r cytundeb cydweithio, ac yn paratoi peirianwaith y blaid ar gyfer etholiad sy’n debygol o fod yn un anodd.
Lle, yng nghanol hyn i gyd, y ceir hyd i’r amser a’r egni ar gyfer gweithredu hyd at 82 o argymhellion sydd wedi eu hanelu ar weddnewid bywyd a diwylliant mewnol Plaid Cymru? Onid y perygl, yn wir, yw y bydd pobl sydd â gormod o bethau eraill i’w gwneud yn penderfynu fod cael ’madael ar yr arweinydd blaenorol yn ddigon ynddo’i hun i arwyddo difrifoldeb a pharodrwydd y blaid i ‘newid’, gan olygu na fydd Prosiect Pawb yn ddim ond tân siafins?
Beth bynnag am y nonsens am Fab Darogan, meidrolyn oedd ac yw Adam Price. Ac fel yn achos unrhyw arweinydd, dyletswydd ei gyd-aelodau yn ein Senedd genedlaethol oedd ceisio eu gorau i ategu ei gryfderau a lleihau effaith unrhyw wendidau. Wrth reswm, haws dweud na gwneud, a dichon fod adegau’n codi pa fo newid yn anhepgor. Ond mae’r penderfyniad ynfyd i gael gwared ar Price – mewn gwirionedd, ystum plentynnaidd yn hytrach na gweithred wleidyddol ystyrlon – a hynny ar adeg mor anffodus, yn dangos yn eglur beth yw canlyniadau diffyg disgyblaeth a theyrngarwch mewnol. Mae Plaid Cymru ei hun wedi ei gwanhau a’r achos y mae’n ceisio ei gynrychioli wedi ei niweidio hefyd.
Gellir darllen adroddiad Prosiect Pawb ar https://www.plaid.cymru/prosiect_pawb
Richard Wyn Jones