Rwyf wedi ymweld â Chroatia nifer o weithiau yn ystod y pymtheg mlynedd diwethaf, gan amlaf i’r ardal ger dinas hyfryd Dubrovnik – ‘Perl yr Adriatig’. Yn ystod y cyfnodau hynny, bu’n bleser sylwi sut roedd y wlad wedi datblygu i fod yn wladwriaeth hyderus a ffyniannus ar ôl iddynt ennill annibyniaeth yn nawdegau’r ganrif ddiwethaf. Wrth i mi ysgrifennu’r nofel, roedd momentwm am annibyniaeth ar gynnydd yma yng Nghymru hefyd, gyda mudiad Yes Cymru yn tyfu mewn poblogrwydd, ac ni allwn osgoi cymharu sefyllfa’r ddwy wlad – Croatia a fu’n rhan o weriniaeth Iwgoslafia a oedd yn undeb o chwe gwlad, a Chymru fel rhan o’r Deyrnas Unedig. Dyna pam rwyf wedi penderfynu rhoi’r elw o werthiant y llyfr i Yes Cymru, gan mai fy ngobaith yw gweld Cymru’n datblygu’n wlad annibynnol hyderus a ffyniannus hefyd.
Cyn ymweld â Chroatia am y tro cyntaf, roeddwn yn ymwybodol fod y wlad wedi bod yn rhan o ryfel waedlyd y Balkans ar ddechrau’r nawdegau, ond heb ddeall fawr ddim am y sefyllfa. Yn ystod fy ymweliad cyntaf, rwy’n cofio synnu wrth sylwi ar adfeilion nifer o westai a safai ar hyd yr arfordir rhwng trefi Cavtat a Dubrovnik, gwestai a fu unwaith yn foethus ond a ddifrodwyd yn ystod y rhyfel ac a adawyd i ddirywio fel cofadfeilion i gyfnod y brwydro. Ers yr ymweliad hwnnw, dechreuais ymddiddori yn yr hanes ac roeddwn yn awyddus i ddysgu mwy.
Er i mi gael rhywfaint o hanes arwynebol y gwarchae a fu ar Dubrovnik yn ystod 1990 gan dywyswyr ar deithiau o amgylch y ddinas, teimlwn eu bod yn fwy cyfforddus yn trafod hen, hen hanes yn hytrach na thrafod clwyfau mwy diweddar. Doeddwn innau ddim yn teimlo y gallwn holi pobl gyffredin am eu profiadau o’r cyfnod, gan fy mod yn ymwybodol bod llawer o ddrwgdeimlad yn dal i gorddi dan y wyneb. Cefais ymateb eithaf ffyrnig gan aelod o staff y gwesty lle roeddwn yn aros pan soniais, yn fy anwybodaeth, fy mod yn bwriadu ymweld â Montenegro. Ar y pryd, doeddwn i ddim yn ymwybodol o’r rhan dreisgar a chwaraeodd y Montenegriaid wrth ymosod ar rannau deheuol Croatia. Wedi hyn, teimlwn y dylwn ddysgu mwy am yr hanes, a darllenais ambell lyfr ac ymchwilio ar-lein i geisio deall beth yn union oedd achos y gwrthdaro.
Yna, rhyw dair blynedd yn ôl bellach, aeth y gŵr a minnau draw i bentref bach Čilipi a gafodd ei ddifrodi’n ddrwg yn ystod y rhyfel. Roeddem wrthi’n syllu ar gerfluniau o’r teulu sanctaidd oedd wedi eu difrodi yn ystod ymosodiad ar eglwys y pentref pan ddaeth gwraig leol, ganol oed, atom a dechrau sgwrsio mewn Saesneg graenus. Gofynnodd a oedd gennym ddiddordeb clywed am ei phrofiadau hi o’r rhyfel. Awr yn ddiweddarach, ar ôl i ni wrando ar ei disgrifiadau dirdynnol, eglurodd ei bod yn credu mewn rhannu ei phrofiadau gydag ymwelwyr er mwyn i bobl ddeall beth ddigwyddodd iddi hi a’i chymdogion, a’i bod am i gymaint â phosib ddod i wybod yr hanes.
Wrth adael y pentref bach y prynhawn hwnnw, roeddwn yn gwybod bod yn rhaid i mi geisio adrodd ei stori. Dim ond gobeithio nad ydw i wedi gwneud cam â hi!
Perl gan Bet Jones yw Llyfr y Mis, mis Medi.
Ar gael o’ch siop lyfrau leol, nawr.
Gwyliwch sgwrs rhwng Bet Jones a Marged Tudur i ddathlu cyhoeddi’r nofel gan siop Palas Print isod: