Cartref digidol diwylliant Cymru.

Yr arswyd o gynnal gŵyl ffilmiau ar-lein

Llenyddiaeth

Dros Galan Gaeaf, fe allwch chi wylio gŵyl ffilmiau arswyd o’ch soffa glyd, ond mi fydd rhaid i chi fod yn eich sedd yn brydlon

Dros Galan Gaeaf, fe allwch chi wylio gŵyl ffilmiau arswyd o’ch soffa glyd, ond mi fydd rhaid i chi fod yn eich sedd yn brydlon…
Eleni yw’r tro cyntaf i drefnwyr Abertoir yn Aberystwyth roi arlwy’r ŵyl ffilmiau arswyd flynyddol ar-lein.
Fe fydd yn cynnwys sgwrs gyda rhai o gyfarwyddwyr ffilmiau arswyd enwocaf America a’r Eidal.
Hefyd mae’r ŵyl wedi llwyddo i sicrhau mai hi fydd yn cynnal premiere Ewropeaidd rhai ffilmiau newydd sbon, er eu bod nhw ond i’w gweld ar-lein ac nid yng Nghanolfan Gelfyddydau Aberystwyth fel bob blwyddyn arall.
Yn eu plith mae Tales of the Uncanny, ffilm ddogfen sy’n edrych ar hanes ffilmiau arswyd ac a gafodd ei chreu yn ystod y cyfnod clo.
“Mae honna’n ffres iawn,” meddai cyd-gyfarwyddwr yr ŵyl, Nia Edwards-Behi. “Achos ein bod ni wedi bod yn digwydd am ddigon hir erbyn rŵan, rydan ni’n gyfarwydd efo rhai o’r cwmnïau sy’n prynu’r ffilmiau yma, y dosbarthwyr. Efo [cael bod y cyntaf i ddangos] rhai, mae yna bach o elfen o nabod y bobol sy’n ’neud y ffilmiau, digwydd bod fod yr amseru yn gweithio, a bod ffilm newydd gael ei gwblhau.”

DARLLEN MWY

RHANNWCH