Cartref digidol diwylliant Cymru.

Yr arolwg barn blwyddyn-i-fynd

Llenyddiaeth

Wrth ymateb i’r pôl piniwn diweddaraf am ganlyniadau etholiad nesaf y Senedd, mae ein colofnydd yn mentro rhagweld newidiadau dramatig yn y byd gwleidyddol Cymreig.

Ffawd y sawl ohonom sy’n ymddiddori yng ngwleidyddiaeth etholiadol Cymru yw ein bod wedi gorfod arfer â’r ffaith mai ychydig iawn sy’n newid. Yn hytrach na chael trafod y cyffro sydd ynghlwm wrth y broses o un blaid yn goddiweddyd un arall, neu ddrama buddugoliaethau neu golledion annisgwyl, ein priod waith fu egluro pam mae etholiad ar ôl etholiad wedi esgor ar ganlyniadau digon tebyg: Llafur bob tro ymhell ar y blaen, y Torïaid yn wannach ond serch hynny’n wydn, a Phlaid Cymru byth cweit yn llwyddo y tu hwnt i’r cadarnleoedd hynny a sefydlwyd ganddi dros hanner canrif yn ôl.

Nid yw hyn oll heb ei ddiddordeb, wrth gwrs. Fel y nodwyd droeon yn y golofn hon, mae gwleidyddiaeth etholiadol yng Nghymru yn gwbl unigryw. Nid oes yr un blaid wleidyddol yn y byd yn gallu cystadlu â record Llafur Cymru o lwyddiant ac mae ceisio egluro sail eu goruchafiaeth yn dadlennu llawer ynglŷn â natur ein gwlad. Serch hynny, rhaid cyfaddef mai gwleidyddiaeth i’r connoisseur ydi hyn; gwleidyddiaeth i’r math o bobl sy’n gwylio pêl-droed nid er mwyn y goliau ond oherwydd eu bod yn mwynhau’r tactics a’r taclo!

Mae hyn oll yn helpu i egluro natur yr ymateb i’r arolwg barn a gomisiynwyd gan ITV Cymru a Chanolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd ac a gyhoeddwyd flwyddyn cyn yr etholiad nesaf i Senedd Cymru sydd i’w gynnal ddechrau Mai 2026. Yn hytrach na darogan mwy o’r hyn sy’n hen gyfarwydd, roedd yr arolwg yn awgrymu y gallwn fod ar drothwy’r newid mwyaf dramatig yn ein gwleidyddiaeth ers canrif a mwy.

Mae’n werth ein hatgoffa’n hunain o’r canlyniad.

Plaid Cymru (ar 30%) nid Llafur oedd ar y blaen, gyda llu o’r rheini fu’n cefnogi ein cyn-blaid fwyaf (mae hyd yn oed sgwennu hynny’n peri ias!) yn bygwth troi tu min arni yn eu hanfodlonrwydd â llywodraethau’r Farwnes Eluned Morgan a Syr Keir Starmer. Yn yr ail safle (ar 25%) roedd Reform UK, plaid sydd wedi llwyddo i hudo cyn-gefnogwyr Ceidwadol, a hynny er gwaethaf (neu ynteu oherwydd?) y ffaith nad oes ganddi bolisïau nac unrhyw wleidyddion adnabyddus y tu hwnt i Nigel Farage. Yn wir, roedd Llafur (ar 18%) a’r Torïaid (13%) mor bell ar ei hôl hi nes fod un o sgil-effeithiau’r gyfundrefn etholiadol a fydd yn cael ei chyflwyno’r flwyddyn nesaf yn bygwth eu hyfywedd fel pleidiau yn y Senedd nesaf.

Fe fydd y gyfundrefn newydd yn gwneud bywyd yn anodd iawn i bleidiau llai. Dichon nad oedd yr Aelodau Seneddol Llafur yn San Steffan a fynnodd mai hon fyddai’r system newydd – ie, nhw sy’n gyfrifol – yn credu y byddai Llafur fyth yn un o’r pleidiau llai hynny yn y cyd-destun Cymreig. Ond os yw cefnogaeth Llafur yn syrthio dim ond ychydig yn is na’r hyn a welwyd yn arolwg barn mis Mai, maent yn wynebu’r posibilrwydd y bydd grŵp y blaid yn y Senedd nesaf yn ddim ond traean maint y grŵp presennol – hynny er bod ein deddfwrfa genedlaethol ar fin ehangu o 60 i 96 aelod. O ran y Ceidwadwyr, gall cwymp pellach yn eu cefnogaeth hwy olygu mai dim ond rhyw dri neu bedwar ohonynt fydd yn weddill ar y meinciau ymhen cwta flwyddyn. A hwythau heb unrhyw aelodau Cymreig yn Nhŷ’r Cyffredin, y peryg i’r Torïaid wedyn yw y byddent yn dod yn blaid gwbl amherthnasol. ‘The strange death of Tory Wales’?

A ninnau’n byw mewn oes lle mae tuedd i weld cynllwyn ar bob tu, efallai na ddylem synnu bod ambell un yn rhengoedd Llafur yn taeru bod yr arolwg barn diweddaraf yn amlwg-anghywir ac yn rhan o ryw agenda dywyll. Hynny er gwaetha’r ffaith nad oes ganddynt unrhyw wybodaeth arbenigol ym maes arolygon barn a bod y cwmni a oedd yn gyfrifol am yr arolwg sydd wedi eu cynddeiriogi – YouGov – yn mwynhau’r record gorau o ddigon o ran cywirdeb eu harolygon barn Cymreig. Ond y tu hwnt i ambell lembo o’r fath, mae’r ymateb wedi bod yn ofalus ac yn wir yn rhyfeddol o synhwyrol.

Gan fod yr arolwg yn cynnig darlun mor anghyfarwydd o gyflwr y farn wleidyddol yng Nghymru, ni thâl gorymateb iddo. Mae’n bosibl y cyhoeddir arolygon barn dibynadwy eraill yn y man (a chofier nad yn unig ym myd adeiladwyr y ceir cowbois) a fydd yn awgrymu bod arolwg mis Mai yn ffaeledig – ni ellir diystyru’r posibilrwydd hwnnw. Eto fyth, mae’r rhan fwyaf o Lafurwyr a Thorïaid y bûm yn trafod â hwy yn cydnabod bod y byd gwleidyddol Cymreig wrthi’n troi ar ei ben ac mai hwy, y ddwy blaid fawr Brydeinig draddodiadol, sy’n dioddef o’r herwydd.

Mae Llafurwyr doeth hefyd yn cydnabod realiti’r darlun a bortrëir yn yr arolwg diweddaraf, sef bod Llafur yn colli cefnogaeth ymhlith yr etholwyr hynny sy’n fwyaf brwd o blaid hunanlywodraeth – sef, mae’n debyg, y rhai hynny sy’n pwysleisio eu hunaniaeth Gymreig. Dyma’r union etholwyr y bu’r Ysgrifennydd Gwladol, Jo Stevens, a’i chyd-Aelodau Seneddol yn San Steffan yn fwyaf dirmygus ohonynt wrth gwrs. Os yw’r tueddiadau a welir yn yr arolwg yn parhau, bydd traha a haerllugrwydd Jo a’i chymrodyr wedi cyfrannu’n uniongyrchol at dor calon sawl ymgeisydd Llafur aflwyddiannus yn etholiad 2026.

Beth nesaf? O ran Plaid Cymru, y neges yn syml yw bod yn rhaid dechrau paratoi o ddifrif ar gyfer llywodraeth. Mae hynny’n cynnwys bwrw heibio ‘meddylfryd y Cynulliad’ a dechrau blaenoriaethu o ran pa bolisïau sy’n mynd i wneud gwahaniaeth go iawn; ystyried pa aelodau etholedig sy’n debyg o fod yn weinidogion effeithlon; ystyried pwy o blith cefnogwyr y blaid sy’n gymwys ac yn abl i ymgymryd â swyddi’r ymgynghorwyr arbennig (y SpAds bondigrybwyll); creu cysylltiadau gyda’r gwasanaeth sifil; ystyried ar ba delerau y gellir negodi â phleidiau eraill ar ôl yr etholiad, ynghyd â’r llu o bethau eraill sydd angen eu gwneud i sicrhau bod llywodraeth nesaf Cymru’n gallu llenwi’r gwagle sydd wedi ei greu gan ddiffyg cyfeiriad amlwg y llywodraeth bresennol. Bydd gwneud hyn yn her aruthrol i Rhun ap Iorwerth a’r tîm bach o’i gwmpas a hwythau hefyd yn gorfod parhau â’r gwaith o ymgyrchu. Eto ni all y blaid fforddio peidio â pharatoi ar gyfer gwneud y gorau o’r cyfle gorau yn ei holl hanes.

O ran Llafur, os nad ydyw eisoes yn rhy hwyr, yna mae’n rhaid i Eluned Morgan geisio dwyn perswâd ar Starmer – ac efallai’n bwysicach fyth, ei law dde Morgan McSweeney – fod yn rhaid bwrw heibio dylanwad llaw farw Stevens a’i chyd-Aelodau Seneddol Cymreig. Wrth gwrs, fe ddylai Starmer fod wedi sylweddoli hyn yn barod o ystyried eu rhan yn gorfodi Vaughan Gething fel arweinydd Cymreig ar ôl ymadawiad Mark Drakeford, heb sôn am y ffaith mai nhw ddewisodd y gyfundrefn etholiadol newydd ar gyfer y Senedd. Mae digon o dystiolaeth fod rhagfarnau Aelodau Seneddol Llafur Cymru yn San Steffan yn niweidiol i wir fuddiannau eu plaid. Erbyn hyn, fodd bynnag, maent yn peryglu statws Llafur Cymru fel y blaid fwyaf llwyddiannus yn y byd democrataidd. A yw Starmer mewn difrif eisiau cael ei gofnodi yn y llyfrau hanes fel yr arweinydd a ‘gollodd Gymru’?

Richard Wyn Jones

RHANNWCH