Cartref digidol diwylliant Cymru.

“YN FYW o’r Ffwrnes” | “LIVE from the Ffwrnes”

CerddoriaethTheatr
Theatrau Sir Gâr yn datgelu llu o sioeau ar-lein | Carmarthenshire Theatres unveils a host of online shows.

Mae Theatrau Sir Gâr wedi datgelu rhaglen rithwir o sioeau a digwyddiadau yn ystod y gaeaf i ddiddanu pobl gartref.
Bydd cerddoriaeth fyw, dramâu, dramâu sain, theatr plant a hyd yn oed arddangosfa gelf ar gael i’w gweld ar draws sawl platfform ar-lein, yn ogystal ag all-lein i’r rhai sydd heb fynediad i’r rhyngrwyd.
Mae Theatrau Sir Gâr yn dal i fod ar gau mewn ymateb i’r pandemig coronafeirws a chanllawiau’r Llywodraeth.
Bydd y gyfres ‘Yn Fyw o’r Ffwrnes’ yn dod â’r hwyl yn ôl i’ch nosweithiau Sadwrn ym mis Hydref gyda thri band byw yn barod i berfformio ar draws penwythnosau olynol, gan ddechrau ddydd Sadwrn 10 Hydref. 
Mae band canu’r enaid o Lanelli, Gimme Some Lovin; band roc a rôl, The Wurlitzers a band llawn addewid o orllewin Cymru, Los Blancos, yn rhan o’r rhaglen gyffrous.
Caiff pob gig ei ffilmio yn y theatr cyn cael ei ffrydio ar YouTube. Bydd y perfformiadau’n rhad ac am ddim i’w gwylio, er y croesewir rhoddion.
I’r rhai sy’n gweld eisiau mynd i’r theatr, mae drama wreiddiol a berfformiwyd gyntaf yn Theatr y Ffwrnes yn ôl yn 2016 wedi’i hail-greu ar gyfer cynulleidfa ddigidol a bydd yn cael ei ffrydio’n fyw ar 14 Hydref am 7pm a bydd hefyd ar gael i’w gwylio ar alw tan 28 Hydref. Mae This Incredible Life yn gomedi dwymgalon am straeon ac adrodd straeon gan y dramodydd, Alan Harris, sydd wedi ennill gwobr BAFTA. Mae’r actores, Sharon Morgan, a aned yn Sir Gaerfyrddin, yn chwarae rhan y prif gymeriad, Mab, yn y ddrama gymhellol hon sy’n dwyn ynghyd theatr, ffilm, animeiddio a cherddoriaeth wreiddiol i gludo cynulleidfaoedd i stori a fydd yn codi’r ysbryd ac yn cynhesu’r galon.
Mae arddangosfa gelf ddiweddaraf Oriel Ffwrnes yn mynd ar-lein hefyd. Bydd ‘Symud Ymlaen’ yn arddangos casgliad o ffotograffau gan arlunydd a churadur preswyl yr oriel, y Gymraes o arlunydd a ffotograffydd sydd wedi ennill llwyth o wobrau, Michele Laugharne Perrott. Mae’r arddangosfa’n cofnodi eiliadau pobl leol ar ôl y cyfyngiadau symud a chaiff ei lansio’n fyw ar ar AM ac ar Facebook ar 7 Hydref.   
Gall pobl ifanc 11+ oed ddianc gyda The Atlantis Project, sef drama sain newydd sy’n datgelu effeithiau newid yn yr hinsawdd ar ddiwylliant drwy stori anturus a thwymgalon Evie a Deean – dau yn eu harddegau sy’n ein gwahodd i’w byd o gyfeillgarwch, argyfwng a derbyn. Mae’r gyfres lawn ar gael i’w lawrlwytho ac i wrando arni am ddim nawr.
I aelodau iau’r teulu, mae First Three Drops yn ddrama newydd sbon sy’n cael ei pherfformio gan Taking Flight Theatre ac mae’n fyw dros Zoom. Bydd y stori hon, sy’n seiliedig ar chwedl Taliesin gan Elis Gruffydd, yn cludo eich rhai bach i fyd o hud a dewiniaeth! Ar gyfer pob plentyn rhwng 2 a 9 oed ac yn enwedig ar gyfer y rhai sydd ag anghenion o ran mynediad. Mae tocynnau yn costio £6 y teulu ac mae angen eu harchebu ymlaen llaw drwy’r wefan, www.theatrausirgar.co.uk , ar gyfer y perfformiad ar 29 Tachwedd.
Ni fydd y rhai sy’n dwlu ar adrodd straeon am golli’r addasiad o ‘Farewell Innocence’ gan yr awdur o Lanelli, William Glynne-Jones. Bydd fersiwn cryno o’r nofel sy’n darlunio bywyd yn nhref ffuglennol Abermôr ac, yn benodol, y gwaith diflas bob dydd mewn gwaith tun, yn cael ei berfformio mewn sawl rhan gan Alun Gibbard.
Bydd y rhai sy’n frwd dros y theatr hefyd yn cael cyfle i fynd ar daith gefn llwyfan yn nhair theatr Sir Gâr – Y Ffwrnes yn Llanelli, Y Lyric yng Nghaerfyrddin a Theatr y Glowyr yn Rhydaman – o gysur eu cartref drwy gyfres o fideos wedi’u ffrydio sy’n archwilio’r adeiladau.
Dywedodd y Cynghorydd Peter Hughes Griffiths, yr Aelod o Fwrdd Gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin sy’n gyfrifol am theatrau: “Er bod ein theatrau’n parhau i fod ar gau oherwydd coronafeirws a chanllawiau’r Llywodraeth, nid yw hynny wedi ein hatal rhag creu sioeau rhithwir bywiog ar gyfer tymor yr hydref i’r teulu i gyd eu mwynhau. Mae ein tymor o gynyrchiadau ar-lein yn canolbwyntio ar artistiaid lleol ac mae’r gwaith wedi’i gomisiynu’n arbennig ar gyfer ein cynulleidfaoedd, ac rydym yn ddiolchgar i Gyngor Celfyddydau Cymru am gyllid i helpu i wireddu hyn. Gobeithiwn y bydd cynifer o bobl â phosibl yn ymuno â ni i weld peth o’r dalent leol wych sydd gan Sir Gaerfyrddin i’w chynnig.”

Bydd yr holl berfformiadau ar gael i’w gwylio ar alw ar AM am gyfnod penodol ar ôl eu rhyddhau am y tro cyntaf. Ewch i’r wefan, www.theatrausirgar.co.uk, i gael y manylion llawn. I’r rhai sydd heb fynediad i’r rhyngrwyd, bydd copïau’n cael eu gwneud o rai perfformiadau (lle mae hawlfraint yn caniatáu hynny) a bydd y rhain ar gael i’w llogi o lyfrgelloedd lleol ledled Sir Gaerfyrddin o ddiwedd y flwyddyn ymlaen.

RHANNWCH