Bydd y band roc a blŵs Cymraeg, Alffa, yn dod â’u brand unigryw o gerddoriaeth i lwyfan y Ffwrnes ar 4 Rhagfyr fel rhan o’n cyfres ‘Yn Fyw o’r Ffwrnes’ o sioeau digidol. Gall cynulleidfaoedd wylio gartref am ddim gan y bydd y gig yn cael ei ffrydio ar draws sawl platfform ar-lein.
Daw’r ddau dalentog hyn o Lanrug ger Caernarfon. Ffurfiodd Dion Wyn Jones (llais a gitâr) a Sion Eifion Land (drymiau) y band yn ôl yn 2015 pan gyfarfu’r ddau wrth astudio yn y coleg.
Mae Alffa wedi cyflawni llawer iawn mewn cyfnod byr, gan ymddangos yng ngŵyl Gorwelion Horizons yn 2018 – rhaglen sy’n tynnu sylw at y perfformiadau cerddorol Cymreig mwyaf addawol i gymryd rhan yn yr ŵyl flynyddol. Diolch i’r platfform ffrydio Spotify, mae Alffa wedi cyrraedd cynulleidfaoedd newydd ar draws y byd ac wedi cyflawni dros 3 miliwn o ffrydiau ledled y byd – y nifer mwyaf erioed a gofnodwyd ar gyfer band Cymraeg.
Mae gan y band roc hwn elfen o’r blŵs a phync; ymhlith y dylanwadau sydd arnynt y mae The White Stripes, Jimi Hendrick, Black Pistol Fire, Tymbal, The Black Keys a Jack White, ac maent yn perfformio’n bennaf yn y Gymraeg.
Bydd Alffa yn perfformio traciau o’u halbwm Rhyddid o’r Cysgodion Gwenwynig, gan gynnwys traciau megis Pla, Gwenwyn a Full Moon Vulture fel rhan o’r gig ‘Yn Fyw o’r Ffwrnes’.