Cartref digidol diwylliant Cymru.

‘Ymbapuroli’, Angharad Price (Gwasg Carreg Gwalch)

Llenyddiaeth

“Beth sy’n gyffredin rhwng Jan Morris ac Ann Griffiths, Fienna a Chaergybi, Ngũgĩ wa Thiong’o a Chapel Bethel, y Lôn Glai a phapur tŷ bach? Dim, efallai – dim ond fy mod wedi digwydd ysgrifennu amdanyn nhw.”

Dyma ddeuddeg o ysgrifau, oll wedi eu hysgrifennu’n gelfydd, sy’n mynd â ni i bob math o gyfeiriadau ‒ a chreu cysylltiadau annisgwyl yr un pryd.

Nofelydd ac academydd yw ANGHARAD PRICE sy’n Athro yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor. Enillodd ei nofel O! Tyn y Gorchudd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Tyddewi 2002 a chyrhaeddodd Caersaint restr fer Llyfr y Flwyddyn yn 2011. Mae hefyd yn awdur astudiaethau academaidd, gan gynnwys Ffarwél i Freiburg, hanes gyrfa gynnar y bardd, T. H. Parry-Williams a enillodd Wobr Ellis Griffith Prifysgol Cymru. Ymbapuroli yw ei hail gyfrol o ysgrifau.

RHANNWCH