Cartref digidol diwylliant Cymru.

Y teulu trafferthus

Llenyddiaeth

Athro ysgol o Swydd Mayo ydi Enoch Burke ac enw amlwg iawn yn Iwerddon ar hyn o bryd, nid oherwydd unrhyw gampau addysgol yn y dosbarth ond yn sgil helynt sy’n deillio o’r modd priodol o ddefnyddio’r rhagenwau wrth gyfeirio at unigolion traws – helynt sydd wedi troi’n bantomeim a hanner yn llysoedd barn y Weriniaeth. 

 

Yn ein stafell newyddion ni yn RTÉ, fel cynhyrchwyr deunydd newyddion, boed ar y teledu neu arlein, rhaid cydnabod mai adroddiadau am y tywydd ydi’r rhai mwyaf poblogaidd o bell ffordd. Ond categori arall o straeon sy’n siŵr o ddenu cynulleidfa ydi achosion llys. Ac mae yna un achos sydd wedi hoelio sylw’r wlad ers misoedd lawer, sef saga Enoch Burke. Mae’r stori a’r sefyllfa yn unigryw ac Enoch Burke yn enigma i’r rhan fwyaf ohonom; yn destun sbort i lawer, yn arwr i rai ac yn niwsans llwyr i’r gyfundrefn gyfreithiol. Mae yna elfennau cwbl hurt yn perthyn i’r achos ond hefyd elfennau difrifol a phwysig. 

Un o ddeg o blant a aned i deulu o Gristnogion efengylaidd yn Swydd Mayo yng ngorllewin Iwerddon ydi Enoch Burke. Rhoddwyd enwau Beiblaidd i bob un ac fe gawson nhw eu haddysgu gartref gan eu mam Martina Burke. Mae’r plant i gyd yn oedolion erbyn hyn ac wedi llwyddo’n aruthrol o dda yn academaidd gyda sawl un ohonyn nhw wedi mynychu Prifysgol Galway gan gasglu graddau diri mewn hanes, mathemateg a’r gyfraith. Ac mae sawl un o’r teulu wedi bod mewn helynt gyda’r awdurdodau a’r llysoedd – bob tro oherwydd cythrwfl yn deillio o’u daliadau digyfaddawd, yn protestio yn erbyn erthylu, pobl hoyw, pobl draws, a phawb nad ydynt yn cytuno â nhw. 

Erbyn hyn mae Enoch Burke wedi ymddangos gerbron llys ddwsinau o weithiau, wedi cael ei garcharu chwe gwaith, y tro olaf ar 19 Ionawr wrth i mi lunio’r darn hwn. Hyd yn oed yn y carchar mae yna helynt. Fe ddaeth Enoch Burke ag achos enllib aflwyddiannus yn erbyn papur newydd am gyhoeddi stori ei fod wedi cael ei symud i gell arall er mwyn ei ddiogelwch ei hun am ei fod wedi pryfocio a digio’r carcharorion eraill gyda’i ddaliadau eithafol. 

Fe gychwynnodd y saga pan oedd o’n athro Almaeneg a Hanes mewn ysgol breifat Brotestannaidd yn Swydd Westmeath. Ym mis Mehefin 2022 fe gafodd ei wahardd o’i swydd. Yn ôl Enoch Burke a’i deulu, fe gafodd ei wahardd am wrthod defnyddio’r rhagenwau priodol ar gyfer disgybl traws. Roedd hyn i gyd yn digwydd ar adeg pan oedd y dadleuon ffyrnig ynglŷn â hawliau pobl draws ar eu hanterth ym Mhrydain. Yn ôl Enoch Burke yr oedd o – ac y mae o – yn cael ei gosbi am ei ddaliadau Cristnogol. Mae fersiwn yr ysgol, fodd bynnag, yn wahanol. Yn ôl yr ysgol, y rheswm am y gwaharddiad oedd fod Enoch Burke wedi torri ar draws gwasanaeth yn yr ysgol i leisio’i wrthwynebiad i’r cais gan rieni’r disgybl traws (nad oedd yn ddisgybl yn ei ddosbarth o beth bynnag) i ddefnyddio’r rhagenwau. Roedd o wedyn wedi dilyn y brifathrawes a mynnu ei holi, gan ymddwyn mewn ffordd annerbyniol nes bod yn rhaid i athrawon eraill ymyrryd, a’r ymddygiad annerbyniol yma oedd y rheswm am y gwaharddiad. 

Mae’r gwahaniaeth yn y fersiynau yn bwysig gan fod Enoch Burke a’i deulu yn hawlio ei fod yn ferthyr oherwydd ei ddaliadau crefyddol, a’r ysgol yn mynnu mai ei ymddygiad afresymol oedd wrth wraidd yr helynt. Gwrthododd Enoch Burke dderbyn y gwaharddiad, ac fe ymddangosodd ddydd ar ôl dydd wrth fynedfa’r ysgol nes i’r ysgol sicrhau gorchymyn llys yn ei erbyn am dresmasu. Fe wrthododd ufuddhau i’r gorchymyn, a chan fod hynny’n fater troseddol fe gafodd ei ddwyn gerbron llys ac yn y diwedd ei garcharu am wrthod ufuddhau i’r llys. 

Fe drodd pob un o ymddangosiadau llys Enoch Burke yn bantomeim, wrth i’w rieni a’i chwaer Ammi (sy’n fargyfreithwraig) ac un neu ddau o’i frodyr ddod i’r llys i weiddi dros bob man, i herio’r barnwr ac amharu ar waith y llys a chael eu llusgo allan gan yr heddlu. Fe gafodd un o’r brodyr ei garcharu am dorheddwch, a’r tad am daro plismones tu allan i’r llys. 

Nid dyma’r tro cyntaf i’r teulu Burke fod yn y penawdau. Er enghraifft, fe gafodd pedwar ohonyn nhw eu gwahardd o gymdeithasau’r Brifysgol yn Galway; fe gafodd Ammi ei diswyddo o un o gwmnïau cyfreithiol mwyaf y wlad; ac fe gafodd y rhieni a dau o’r plant eu taflu allan i’r stryd gan swyddogion diogelwch yn Washington llynedd ar ôl rhuthro i mewn i ginio Gŵyl San Padrig i weiddi ar y Taoiseach. 

Yn y bôn, mae’r Burkeaid yn mynnu achosi helynt. Mae eu diffyg parch tuag at y gyfraith a’r llysoedd yn anhygoel, er eu bod ar yr un pryd yn giamstars ar ddadlau eu hachos a chamddefnyddio prosesau’r llys. Dydi’r llysoedd a’r barnwyr ddim yn gwybod beth i’w wneud gyda nhw, ac mae’r cyhoedd yn gwylio’r ffars yn gegrwth. Mae rhai pobl – er eu bod efallai’n anghytuno’n llwyr â’u safbwyntiau – yn edmygu eu styfnigrwydd; eraill yn dweud eu bod nhw’n cael llawer gormod o sylw, bod y sylw yn bwydo’u hymddygiad, a bod bai ar y cyfryngau am roi’r union gyhoeddusrwydd i’r Burkeaid y maen nhw’n dyheu amdano. 

Trodd y lluniau o Enoch Burke yn sefyll tu allan i’r ysgol, yn ei gôt a’i fag ar ei ysgwydd, yn symbol o anhyblygrwydd eithafol sydd ar yr un pryd yn grotésg, yn drist ac yn beryglus. Mae’n drist oherwydd tu cefn i hyn oll mae yna ddisgybl traws yn yr ysgol sy’n amlwg yn mynd trwy brofiad personol anodd heb sôn am orfod meddwl am y ffwdan ofnadwy sydd wedi codi. Dydi’r holl sylw ddim wedi bod yn hawdd i’r disgyblion eraill na staff yr ysgol chwaith. Mae’n beryglus am fod yna gefnogaeth i Enoch Burke gan unigolion a grwpiau adain dde eithafol yn Iwerddon a chan efengylwyr adain dde yn yr Unol Daleithiau sy’n fframio’r achos fel crwsâd dros ryddid crefyddol. 

Hyd yn hyn, dydi’r ffraeo ymfflamychol a’r pegynu dros agweddau ‘woke’ ddim wedi creu rhaniadau arwyddocaol yn Iwerddon fwy nag y mae gwleidyddiaeth adain dde eithafol wedi cydio yma. Does gan Iwerddon yr un blaid wleidyddol adain dde boblyddol lwyddiannus debyg i Reform na’r un ffigwr tebyg i Nigel Farage. Er bod protestiadau yn erbyn mewnfudwyr wedi cael cryn sylw yma yn ddiweddar, dim ond llond llaw o gynghorwyr adain dde eithafol a fu’n llwyddiannus yn etholiadau lleol 2024. Ond mae yna rai pobl yn llygadu eu cyfle, gan gynnwys ambell aelod o gylch Donald Trump a MAGA. Mewn cyfweliad cyn y Nadolig gyda gwefan Politico, fe ddywedodd y poblyddwr Americanaidd dadleuol Steve Bannon hyn am Iwerddon: ‘Maen nhw’n mynd i gael MAGA Gwyddelig ac rydyn ni am weld Trump Gwyddelig. Mae’r wlad reit ar y dibyn o ganlyniad i fewnfudo ar raddfa enfawr’. 

Nid Enoch Burke ydi’r ffigwr Trumpaidd sydd gan Bannon mewn golwg o bell ffordd, a dydi’r teulu Burke yn fwriadol ddim yn rhan o unrhyw gynllwyn y tu hwnt i’w daliadau crefyddol eu hunain. Ond theori Bannon a’i debyg ydi bod yna wacter gwleidyddol yn Iwerddon sy’n barod i gael ei lenwi gan fudiad neu blaid all gynrychioli etholwyr cenedlaetholgar gwrthsefydliadol, gwrthfewnfudo a gwrth-Islamaidd. Ac maen nhw’n barod i ddefnyddio ac ariannu unrhyw unigolyn neu achos sy’n hyrwyddo eu prosiect. Mae MIGA yn edrych yn chwerthinllyd o annhebygol ar hyn o bryd, ond nid yw’n annichonadwy y gallai plaid adain dde eithafol esblygu’n ddigonol yn Iwerddon i achosi, fel yn hanes y teulu Burke, dipyn go lew o helynt. 

 

Bethan Kilfoil 

RHANNWCH