Cartref digidol diwylliant Cymru.

Y Teimlad | That Feeling

Ymunwch â chast Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru 2021 ar daith epig yn llawn cerddoriaeth, ble mae byd y Duwiau Cariad hynafol yn gwrthdaro gyda realiti cariad yn y Gymru gyfoes.

Wedi ei hysgrifennu gan Hanna Jarman a’i hysbrydoli gan y cast, mae’r gymysgfa ddwyieithog, fywiog hon o ffilm a theatr (gyda rhywfaint o Zoom seicedelig) yn cydblethu straeon ein cymeriadau ifanc wrth iddynt ddathlu ac ailddiffinio’r hyn all cariad fod.

Perfformiadau 1-9 Hydref 2021
Tocynnau o £3
Prynu tocynnau: https://www.ccic.org.uk/digwyddiadur

~~
Cynhyrchiad Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru a Theatr Clwyd
https://www.theatrclwyd.com

RHANNWCH