Y Pla a nofelau eraill – Angharad Price a William Owen Roberts
Ffilm
Wiliam Owen Roberts yw prif nofelydd hanesyddol Cymru – awdur Y Pla, Paradwys, Petrograd a Paris. Bydd yn sgwrsio gydag Angharad Price am effeithiau pandemig byd-eang, caethwasiaeth – ac ambell nofel hefyd, gan gynnwys yr un sydd ganddo ar y gweill.