Ein nod yw addysgu’r cyhoedd i werthfawrogi a deall barddoniaeth Gymraeg, yn enwedig y gelfyddyd o gynganeddu, a hybu’r rhai sydd am farddoni. Mae Barddas, sef y Gymdeithas Gerdd Dafod, yn weithgar iawn yn hybu barddoniaeth a beirdd.
Byddwn yn cyhoeddi Cylchgrawn Barddas bedair gwaith y flwyddyn. Bydd y rhai sy’n tanysgrifio i’r cylchgrawn hefyd yn dod yn aelodau o’r Gymdeithas Gerdd Dafod gan lywio dyfodol Barddas a barddoniaeth Gymraeg.
O dan faner Cyhoeddiadau Barddas y ni yw prif gyhoeddwr cyfrolau barddoniaeth Gymraeg. Er hynny mae gennym raglen gyhoeddi amrywiol iawn.
Trwy gynlluniau a phartneriaethau amrywiol byddwn yn hybu beirdd, hyrwyddo eu gwaith a lledaenu barddoniaeth y tu hwnt i’w llwyfannau traddodiadol.
Cronfa Gerallt
Mae Cronfa Gerallt yn noddi beirdd ifainc i fynychu Cwrs Cynganeddu Tŷ Newydd.
“Hyd y gwn i, ni fu erioed cwrs carlam i ddysgu’r grefft yn unman arall yn y byd ar unrhyw adeg arall mewn hanes, ac ymddengys mai dyma’r ffordd orau i ddysgu. Y brif fantais yw bod y preswylwyr oll wedi cyflawni’r hyn a fyddai wedi cymryd oddeutu dwy flynedd drwy fynychu dosbarthiadau nos, gan fod y tiwtoriaid yno gyda nhw ddydd a nos, a bod yr effaith big brother house cynganeddol yn golygu nad oedd lle i neb ddianc rhag y gynghanedd.”
Aneirin Karadog