Dwy ferch ar ddau gyfandir. Un lord ag awch am elw. Stori ddirdynnol am gaethferch, am forwyn, am long a chastell ac am ddioddefaint y tu hwnt i ddychymyg. Mae’r nofel yn ceisio mynd i’r afael â’r cysylltiad sydd gan Gymru â chaethwasiaeth.
Mae ANGHARAD TOMOS yn awdur llawrydd ers bron i 40 mlynedd, wedi ysgrifennu ac arlunio llyfrau i blant, pobl ifanc ac oedolion. Hi sy’n gyfrifol am y gyfres i blant, Cyfres Rwdlan a addaswyd i’r llwyfan a’r teledu.
Enillodd Fedal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol efo Si Hei Lwli (1991) a Wele’n Gwawrio (1997), ac mae wedi ennill Gwobr Tir Na n-Og efo’i llyfrau plant a Gwobr Mary Vaughan Jones. Yn ystod y pum mlynedd diwethaf, ysgrifennodd nofelau i bobl ifanc efo thema hanesyddol iddynt.
Mae yn awdur sawl drama, a llwyfannwyd Dyled Eileen efo’r Theatr Genedlaethol chwe mlynedd yn ôl. Roedd Cwmni Bara Caws ar fin mynd ar daith efo cyfieithiad ganddi o ‘Blackthorn / Draenen Ddu‘ ond rhoddodd Covid-19 stop ar hynny. Mae yn ysgrifennu colofn i’r Herald Cymraeg ers 1993. Bu’n Gadeirydd Cymdeithas yr Iaith rhwng 1982-84. Mae’n byw yn Nyffryn Nantlle efo’i gŵr Ben a’i mab, Hedydd.