Mae Wilde yn ysu i ffitio mewn yn ei hysgol newydd. Ond mewn tywydd poeth ffyrnig, yn ymarferion drama’r ysgol sy’n adrodd chwedl leol am wrach o’r enw Gaeaf, mae’r ‘wrach’ yn dechrau gadael llythyrau melltith brawychus i’r disgyblion. A all Wilde ddarganfod pwy sy’n gwneud hyn cyn i bawb ei beio hi?
Magwyd ELOISE WILLIAMS yn Llantrisant ac mae hi’n byw yng ngorllewin Cymru, yn agos iawn i’r môr. Wedi iddi astudio drama, aeth yn ei blaen i weithio fel actor am dros ddeg mlynedd cyn astudio Gradd Meistr mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Abertawe. Fe’i gwnaed yn Children’s Laureate Wales, y cyntaf erioed, ym Medi 2019. Wilde yw ei phedwerydd llyfr a gyhoeddir gan Firefly Press.