Bydd Cyfarfod Rhwydwaith mis Mehefin yn canolbwyntio ar sut mae WAHWN yn casglu ac yn defnyddio data’r sector Celfyddydau Iechyd a Llesiant yng Nghymru i eiriol i gyllidwyr a llunwyr polisi yn y dyfodol.
Yn ymuno â ni fydd Rosie Dow, sy’n gweithio gyda WAHWN ar brosiect ymchwil sydd ar gam cynnar i’n helpu i fynegi cwmpas, graddfa, cyllid ac effaith gweithgaredd celfyddydau ac iechyd yng Nghymru yn well. Yn y sesiwn byddwn yn trafod pa gwestiynau yr hoffai aelodau WAHWN i ni eu hateb gyda’r gwaith, a sut y gallai’r prosiect eu cefnogi.
Byddwn hefyd yn clywed gan y Cynghrair Diwylliant, Iechyd a Llesiant am ganlyniadau’r arolwg ‘cyflwr y sector’ diweddar ac yn ystyried sut y gallai’r canlyniadau hyn ein helpu yng Nghymru i feddwl sut rydyn ni’n adrodd stori’r hyn a wnawn.
Mae Rosie Dow yn ymgynghorydd llawrydd yng Nghymru sy’n arbenigo ar strategaeth, data ac arweinyddiaeth yn y celfyddydau ac iechyd. Hi oedd Rheolwr Prosiect HARP.