Yng ngogledd orllewin Cymru, mae gennym rai o’r costau ynni uchaf a rhai o’r cyflogau isaf yn y DU – dim yn gymysg gwych hefo’r nifer o hen adeiladau carreg anodd eu gwresogi sydd gennym yma!
Dim syndod felly mai un o’r eitemau yng Nghynllun Gweithredu Hinsawdd Cymunedol pob ardal oedd rhywbeth i’w wneud â chodi cartrefi ac adeiladau i safonau uwch o ran effeithlonrwydd ynni.
Mae Elfed Lewis yn arbenigwr ar ôl-osod, effeithlonrwydd ynni a Passivhaus. Ar hyn o bryd mae’n gweithio gyda Cwmni Bro Ffestiniog i uwchraddio’r Aelwyd, hen adeilad yr Urdd ym Mlaenau Ffestiniog. Y nod yw gallu dangos i bobl beth sy’n bosib – a dangos iddyn nhw ei bod hi’n bosib cael cartrefi cynnes, clyd sy’n rhad i’w rhedeg.
Ewch i www.gwyrddni.cymru neu cysylltwch hefo post@gwyrddni.cymru i ddysgu mwy neu i fod yn rhan o hyn!