Mae Tydfil Truths yn ddrama sain newydd rymus a ysgrifennwyd ac a berfformir gan bobl ifanc sy’n byw ym Merthyr Tudful. Mae’r ddrama yn canolbwyntio ar sut maen nhw’n gweld y byd, pa faterion sydd bwysicaf iddyn nhw a realiti eu magwraeth mewn tref yn y Cymoedd.
Mae’r bobl ifanc i gyd yn fyfyrwyr Celfyddydau Perfformio UAL yn Y Coleg, Merthyr Tudful, ac wedi creu’r prosiect hwn yn gyfangwbl o’r dechrau. Mae Tydfil Truths yn cael ei adrodd drwy leisiau’r awduron, ac mae’n mynd i’r afael â phynciau cyfoes a fydd yn berthnasol waeth ble rydych chi. Tydfil Truths yw eu byd nhw, drwy eu geiriau nhw.
Nodwch fod Tydfil Truths yn cynnwys iaith gref.
Roedd Tydfil Truths yn brosiect a ariannwyd gan Y Coleg Merthyr Tudful ac Arian i Bawb Loteri Genedlaethol Cymru gyda chefnogaeth ychwanegol gan Theatr y Sherman.
Perfformir yn Saesneg.