Mae trydedd Gronfa Fideos PYST x S4C yn agored nawr!
Mae’r Gronfa yn cynnig cefnogaeth ariannol o £500 i artistiaid neu gyfarwyddwyr sydd heb greu fideo cerddoriaeth Gymraeg o’r blaen. Bydd cronfa eleni yn ariannu 20 fideo cerddoriaeth newydd.
Mae Gronfa yn agored nawr – cliciwch yma i ymgeisio.
Dyma ganllawiau’r Gronfa:
Creu a hyrwyddo
1.1 Bydd y fideo yn cael ei greu er mwyn hyrwyddo trac sydd heb ei ryddhau
1.2 Bydd amseru rhyddhau’r fideo yn cael ei gytuno gyda PYST a bydd angen iddi gyd-fynd â rhyddhau y trac ar y platfformau ffrydio
1.3 Bydd angen i ni dderbyn y fideo bythefnos cyn ei ryddhau
1.4 Cyfrifoldeb yr artist/cyfarwyddwr yw cyflwyno’r fideo gorffenedig ar fformat fydd wedi ei gytuno ymlaen llaw gyda PYST (bydd PYST yn gallu cynghori ar hyn) o leiaf 14 diwrnod cyn dyddiad darlledu’r fideo. Bydd yr artist/cyfarwyddwr hefyd yn cyflwyno ar yr un pryd clip byr 30 eiliad o’r fideo a chyfres o ‘stills’ o’r fideo ar gyfer dibenion hyrwyddo.
1.5 Bydd angen nodi’r canlynol yn nisgrifiad y fideo: Rhan o gronfa fideos cerddorol PYST x S4C / Part of PYST x S4C music video fund
1.6 Dylid tagio cyfrifon @s4c a @pystpyst wrth rannu’r fideo ar y rhwydweithiau cymdeithasol
1.7 Bydd y fideo yn cael ei rannu ar Am, a bydd gan S4C yr hawl i ddarlledu’r fideo ar rwydweithiau’r sianel
Hawlfraint a thaliadau
2.1 Mae’r artist/cyfarwyddwr yn cadarnhau bod yr holl hawliau angenrheidiol i ddarlledu’r fideo yn fyd-eang wedi eu sicrhau gan gynnwys caniatâd unrhyw rai sydd wedi gweithio ar y fideo, hawliau cerddorol ac unrhyw gynnwys ffilm ychwanegol
2.2 Caiff arian y nawdd (£500) ei dalu mewn dau daliad o £250 (cyn ac ar ôl gorffen y fideo)
Termau ac amodau
3.1 Bydd angen rhoi gwybod i PYST am unrhyw newid i’r cynllun gwreiddiol
3.2 Ni fydd angen i’r artist ddosbarthu eu cerddoriaeth drwy PYST
3.3 Ni chaniateir defnyddio arian y gronfa ar gyfer fideo sydd wedi’i chreu yn barod