Mae caneuon Kentucky AFC bellach ar gael i’w ffrydio ar y We… esgus perffaith, felly, i hel atgofion am un o fandiau gorau’r Sîn…
Am gyfnod yn negawd cynta’r ganrif hon, Kentucky AFC oedd Y band Cymraeg gorau oedd i gael.
Rhwng 2001 a 2007, wnaethon nhw greu rhai o ganeuon roc mwya’ ffyrnig, melodig a deinamig y Sîn Roc Gymraeg.
Gyda tiwns tew a riffs tewach, roedden nhw ben ag ysgwydd uwchben pawb arall.
Ac mae cyfle wedi dod i’r hen ffans ailddarganfod eu pleserau, ac i rai newydd ddod yn gyfarwydd â chaneuon gwych megis ‘Bodlon’, ‘11’ ac ‘Eithaf Peryg’.
Mae dwy albym, EP a sengl y triawd wedi eu gosod ar spotify ac ati, er mwyn i chi allu eu ffrydio nhw.
Wnaethon nhw ryddhau’r albym Kentucky AFC yn 2004 ac mae hi’n glasur, heb unrhyw os nac oni bai!
Mae’r albym yn agor gyda’r bangar ‘Be Nesa?’, yn gosod y safon sy’n cael ei gynnal ar y dwshin o ganeuon eraill sydd yn y casgliad.