Cartref digidol diwylliant Cymru.

Trawsgrifio dyddiaduron ffermwr o Benmorfa, Gwynedd

No Categories Found

Trawsgrifio dyddiaduron ffermwr o Benmorfa, Gwynedd o 1820 ymlaen. Mae nhw’n llawn geirfa a gwybodaeth am fywyd cefn gwlad 200 mlynedd yn ôl sydd yn aml yn ddieithr i ni heddiw.

Dyma rai o’r pynciau sydd wedi ymddangos hyd yma: cloddio’r Maen Grisial, gwerthu geifr dof, dod o hyd ben carw hynafol, plannu’r cnydau cyntaf ar y Traeth Bach ddeng mlynedd ar ôl codi cob Porthmadog, ffowlio efo milgwn, dirgelwch ‘llawddryll” tollfa Aberglaslyn…. hyn i gyd mewn Cymraeg rhywiog. Beth ddaw i’r fei nesaf? – ni welodd y dyddiaduron hyn olau dydd erioed o’r blaen. Wedi cael blas?

Rydym ar fin dechrau trawsgrifio cofnodion y flwyddyn 1822 (mae 8 mlynedd ar ol). Mae hyn yn waith caled ond hynod ddiddorol i rai sydd â diddordeb yn Hanes Cymru a’i hamgylchedd. Gwirfoddolwyr sydd wrthi – a gwirfoddolwyr FYDD wrthi. Dyma’r wybodaeth sydd wedi i chyhoeddi yn barod, ewch yma i’w gweld 

Beth am gynnig helpu gyda’r gwaith? Cysylltwch â llennatur@yahoo.co.uk

RHANNWCH