Mae Tiger Girl gan Pascale Petit yn nodi symudiad o oedwigoedd glaw’r Amason a welir yn ei gwaith blaenorol at archwilio etifeddiaeth Indiaidd ei Mam-gu, a ffawna a fflora coedwigoedd yr is gyfandiroedd. Tiger Girl yw’r Fam-gu, gyda’i straeon am deigrod gwyllt, ond hi hefyd yw’r ysglyfaethwr mewn perygl a ddaeth Pascale ar eu traws yng Nghanolbarth India. Yn ei eco-gerddi afieithus a thyner, dathlir uchafbwynt yr hyn oedd fel arall yn fagwraeth lom trwy ddelweddau hudol o natur, ochr yn ochr â lluniau hunllefus o ddifodiant rhywogaethau a herwhela.
Dyma wythfed casgliad PASCALE PETIT, a’r ail gan Bloodaxe, ar ôl Mama Amazonica, enillydd Gwobr Ondaatje 2018 y Royal Society of Literature – y tro cyntaf i gyfrol barddoniaeth ennill y wobr am ffuglen, ffeithiol greadigol, neu farddoniaeth sydd yn ennyn enaid lle. Mae pedwar o’r casgliadau blaenorol wedi eu nodi ar restr fer Gwobr T.S. Eliot.