Cartref digidol diwylliant Cymru.

Theatr Gen Eto – Y Tŵr

Mae’n bleser gan Theatr Genedlaethol Cymru a Music Theatre Wales gyhoeddi y bydd y ffilm o gynhyrchiad o’r opera Y Tŵr, gwaith sy’n torri tir newydd, ar gael i’w gwylio’n rhad ac am ddim fel rhan o raglen Theatr Gen Eto Theatr Genedlaethol Cymru.

Mae Y Tŵr yn archwilio holl rychwant emosiynol y berthynas rhwng dau wrth iddynt ymrafael â chyfnodau allweddol eu byw a’u bod gyda’i gilydd. Yn seiliedig ar waith Gwenlyn Parry, un o ddramodwyr mwyaf cynhyrchiol Cymru, mae’r opera wreiddiol a theimladwy hon yn adrodd stori oesol gyffredin am gariad a bywyd, a’r cyfan wedi’i osod o fewn tŵr y teitl – sy’n drosiad ar gyfer unrhyw berthynas – wrth i’r ddau gymeriad, a genir gan y soprano Caryl Hughes a’r bariton Gwion Thomas, symud i fyny o un lefel i’r nesaf, a phob lefel yn cynrychioli moment arbennig yn eu perthynas, o gyffro cariad ifanc i effeithiau dinistriol henaint.

Gyda’r gerddoriaeth wedi’i chyfansoddi gan Guto Puw, a’r libretto gan Gwyneth Glyn, Y Tŵr oedd yr opera gyntaf erioed i’w chomisiynu yn Gymraeg ar gyfer perfformwyr proffesiynol, a’r ail gynhyrchiad i Music Theatre Wales ei gyflwyno yn y Gymraeg. Y Tŵr hefyd oedd yr opera gyntaf i Theatr Genedlaethol Cymru ei chyflwyno. Trwy garedigrwydd Ms Ann Beynon ac Ystad Gwenlyn Parry, cynhaliwyd premiere byd cyntaf yr opera yn 2017 yn Theatr y Sherman, Caerdydd fel rhan o Ŵyl Bro Morgannwg, ac yn dilyn hynny mewn amryw o ganolfannau ledled Cymru yn ogystal ag yng Ngŵyl Ryngwladol Buxton.

RHANNWCH