Cartref digidol diwylliant Cymru.

Theatr Gen Eto | Trailer Macbeth

LlenyddiaethTheatr

Cyfieithiad Gwyn Thomas o glasur Shakespeare, yn fyw am 19:00 heno.

Cyfieithiad Gwyn Thomas o glasur Shakespeare
Cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru mewn partneriaeth gyda CADW a gyda chefnogaeth gan Chapter.
Mae brenin yr Alban wedi gwobrwyo ei filwr mwyaf disglair. Ond mae bodau goruwchnaturiol wedi proffwydo i Macbeth anrhydedd lawer mwy. Pan mae ei wraig ddidrugaredd yn gwirioni ar addewid o bŵer di-ben-draw, gan annog uchelgais cythreulig ei gŵr, mae ar ben arno, ac mae cynllun dieflig y ddau yn troi’n frwydr waedlyd.
Dyma gyfle i weld castell ysblennydd Caerffili fel na welwyd mohono erioed o’r blaen mewn cynhyrchiad safle-benodol o Macbeth.
CC – Capsiynau Caeedig ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg.

RHANNWCH