Yn ystod gwanwyn 2019 gweithiodd Celfyddydau Span gyda phrosiect Planed ‘Ein Cymdogaeth Werin’ i gynnal Slam Barddoniaeth Preseli. Cynhaliodd y bardd Karen Owen sawl gweithdy ar draws cymunedau’r Preselau gyda Slam Barddoniaeth yn Neuadd Goffa Trefdraeth fel uchafbwynt. Yno rhannodd beirdd brwdfrydig y prosiect eu gwaith a chyflwynodd Karen première ddeinamig o’i cherdd newydd a ysgrifennwyd mewn ymateb i’r prosiect sef Chwechawd Preseli. Dyma ffilm fer sy’n dogfennu’r prosiect.