Cartref digidol diwylliant Cymru.

The Mighty New – Looking Sideways: From the Future

Yn ystod yr hydref, pan oedd hi’n bosib, daeth The Mighty New, grŵp symud i blant Volcano, i mewn i’r theatr ar ddyddiau Sadwrn i greu darn o’r enw, Looking Sideways: From the Future.

Yn ystod yr hydref, pan oedd hi’n bosib, daeth The Mighty New, grŵp symud i blant Volcano, i mewn i’r theatr ar ddyddiau Sadwrn i greu darn o’r enw, Looking Sideways: From the Future. Yn anffodus, roedd yn amlwg na fyddent yn gallu perfformio o flaen cynulleidfa fyw eleni, felly fe grëwyd darn arbennig ar gyfer fideo.

Arweiniwyd y dosbarthiadau gan Catherine Bennett.

“Cafodd Looking Sideways: From the Future ei wneud mewn ymateb i deimladau ar y cyd The Mighty New yn ystod y flwyddyn anarferol hon – blwyddyn y pandemig.
Rwy’n gweld eu cyrff yn symud yn y gwagle, ac yn gweld eu symudiad fel anthem ar gyfer ein hieuenctid penderfynol. Mae aelodau Mighty New wedi chwilio am, dod o hyd i, a theimlo herfeiddiwch. Herfeiddiwch at bwy ydyn nhw, pwy y gallan nhw fod, a sut all eu breuddwydion ddwyn ffrwyth o hyd. Yn fy marn i, er gwaethaf y rheolau newydd hyn y mae pob un ohonynt wedi gorfod eu dilyn, mae pob un wedi teimlo, meddwl, a deall beth mae rhyddid yn ei olygu iddyn nhw.”

The Mighty New 

RHANNWCH