Cartref digidol diwylliant Cymru.

The Green Room Session: The Art of Fundraising

No Categories Found

SPAN yn lansio Sesiynau Ystafell Werdd er mwyn i artistiaid Gorllewin Cymru gael mynediad at gymorth datblygiad proffesiynol.

Dyddiad: Medi 25ain
Amser: 5pm tan 7pm
Pris: AM DDIM, ond rhaid archebu ymlaen llaw
Lleoliad: Celfyddydau SPAN, Gwaun y Dref, Arberth, SA67 7AG
Gwybodaeth: span-arts.org.uk
Cysylltwch ag info@spanarts.org i drafod eich anghenion hygyrchedd.

Ar ôl yr ymateb cadarnhaol i ddigwyddiadau Parti Arti SPAN ar gyfer gweithwyr llawrydd creadigol, mae’n bleser gennym gyhoeddi lansiad y Sesiynau Ystafell Werdd, cyfres newydd o weithdai sy’n cynnig mynediad i sesiynau datblygiad proffesiynol i weithwyr llawrydd creadigol o Orllewin Cymru.

Mae’r sesiynau Ystafell Werdd yn gyfres o weithdai wedi’u cynnal gan dîm SPAN sy’n canolbwyntio ar artistiaid. Byddant yn edrych ar ystod o sgiliau proffesiynol sy’n cynnig mewnwelediad i amrywiaeth o feysydd, o godi arian i hyrwyddo.

Bydd y sesiwn gyntaf yn canolbwyntio ar y grefft o godi arian; deall beth mae cyllidwyr ei eisiau, a sut i ddweud eich stori. Bydd y sesiwn lefel rhagarweiniol hon yn cael ei harwain gan Gyfarwyddwr Celfyddydau SPAN, Bethan Touhig Gamble. Mae Beth wedi bod yn codi arian i’r celfyddydau ers mwy na 15 mlynedd ac mae wedi gweithio fel ymgynghorydd codi arian llawrydd a hyfforddwr cyn ymgymryd â rôl Cyfarwyddwr SPAN.

Ymunwch â ni ddydd Mercher 25 Medi rhwng 5pm a 7pm yn adeilad Celfyddydau SPAN, Arberth ar gyfer y sesiwn 2 awr. Mae’r sesiynau hyn AM DDIM ond mae angen archebu ymlaen llaw. Am fwy o wybodaeth am y gweithdai ac i archebu lle, ewch i span-arts.org.uk neu e-bostiwch info@spanarts.org.

Edrychwn ymlaen at eich croesawu i’r cyfarfodydd hyn. Cadwch lygad ar ein cyfryngau cymdeithasol, Facebook: @spanarts ac Instagram: @spanartsnarberth, am ddiweddariadau a chyhoeddiadau am weithdai sydd ar ddod

RHANNWCH