Ydych chi’n aelod o gymuned diaspora Affrica yng Nghymru ac isho ymuno â grwp o unigolion sydd hefyd eisiau gweld sut i ymateb i’r argyfwng hinsawdd yng Nghymru a thu hwnt?
Dyma yw’r grwp i chi!
Mae newid hinsawdd yn ein effeithio ni i gyd, yn arbennig mewn grwpiau lleiafrifol. Mae’n aelodau yn teimlo effaith newid hinsawdd a mae nifer yn cefnogi teulu a ffrindiau mewn gwledydd eraill. Rydym eisiau creu gofod diogel, cefnogol ac actif ar gyfer cymunedau diaspora yng Nghymru er mwyn trafod newid hinsawdd yng Nghymru ac yn rhyngwladol.
Mae SSAP yn cynnal ail sesiwn y grwp ar ddydd Sadwrn, Ebrill 29 am 11yb-12:30yh.
Cofrestrwch!