Ar ôl marwolaeth aelod olaf ei theulu, mae Seren Rhys yn disgwyl am drên mewn gorsaf drenau rewllyd, fydd yn ei chludo i’w bywyd newydd ym mhlasty ynysig Cymreig Plas-y-Fran. Yno, mae’n gobeithio gweld siandelïers disglair, socian mewn baths poeth, pwdin plwm ac wynebau cyfeillgar. A chath efallai. Munudau cyn i’r trên gyrraedd, mae dyn pryderus, gyda bysedd hir yn rhoi pecyn anesboniadwy iddi, ac yna’n diflannu i’r nos. Wrth i’r trên adael, a dim golwg o’r dyn, mae hi’n penderfynu mynd â’r parsel gyda hi. Cyrhaedda Plas-y-Fran yng nghanol nos, a’r tŷ mor iasol â’r tirlun y teithiodd hi drwyddo – yn gorlifo o alar, cyfrinachau’n cuddio ymhob man, a dim ond llond llaw o weithwyr yno. A hithau ar ei phen ei hun yn ei ystafell, mae’n troi ei sylw at gynnwys dirgel y parsel…
Mae’r antur wedi ei chreu’n arbennig ar gyfer oes yr ‘aelwydydd estynedig’, a byddwch yn teithio gydag eraill yn eich swigen drwy fyd newydd, dieithr a hudolus Seren, wrth iddi gael ei harwain gan gyfaill clocwaith annibynadwy, osgoi dod ar draws Mrs Villiers, y feistres arswydus, a chwilio am Tomos, y bachgen y tybir iddo gael ei gymryd gan y Tylwyth Teg. Ymunwch â Seren ar y platfform, sbïwch ar y gweithwyr yn y gegin, cerddwch drwy goridorau anghynnes, a theithiwch drwy ddrysleoedd a dolydd i chwilio am y grisiau aur sy’n arwain at y deyrnas hudolus…
Bydd dyddiadau agoriadol yn cael eu cadarnhau’n fuan, ond gallwch gofrestru eich diddordeb mewn prynu tocynnau yma. Bydd nifer yr ymwelwyr yn cael ei gyfyngu, a bydd y bobl sy’n cofrestru nawr yn cael mynediad at docynnau ymlaen llaw.