“…Croeso i North Sag – cartref i bobl y Sagog. Mae’n diflannu i’r môr. Yfory, mae’n rhaid i ni adael North Sag am byth. Felly heno, rydyn ni wedi dod at ein gilydd i recordio ein stori i chi. Dyma ‘Y Prosiect Atlantis’…”
Cyfres sain 5 rhan yn addas ar gyfer 11+ oed. Fe’i crëwyd fel cydweithrediad rhyngwladol rhwng artistiaid yng Nghymru a Norwy, i ddatgelu effeithiau newid hinsawdd ar ddiwylliant, trwy ddilyn stori ac anturiaethau Evie a Deean – dau berson ifanc sy’n ein gwahodd ni i’w byd o gyfeillgarwch, trychineb, a derbyn.