Mae cyfrol o atgofion Lucy Gannon yn gofnod clasurol o ddwy flynedd ar bymtheg gyntaf merch o ddosbarth gweithiol sy’n gorchfygu sawl rhwystr wrth ganfod ei hun – marwolaeth ei mam, magwraeth gaeth o fewn y ffydd Gatholig, teulu milwrol, camdriniaeth a llysfam greulon. Daw achubiaeth drwy addysg a blynyddoedd y 1960au, yn cynnwys cyfarfyddiad byr â’r Beatles.
Wedi iddi adael y fyddin, daeth LUCY GANNON yn weithiwr cymdeithasol ac yna yn nyrs, cyn troi at ysgrifennu. Mae hi’n awdur 8 drama a 18 drama neu gyfres teledu, gan gynnwys The Best of Men, Soldier Soldier, Peak Practice, Bramwell, a Dad. Enillodd Wobr Richard Burton ar gyfer Dramodydd Newydd ac mae wedi bod yn awdur preswyl ar gyfer y Royal Shakespeare Company. Ar hyn o bryd mae hi’n datblygu sgriptiau ac yn mentora awduron ar gyfer BBC Cymru, ac yn ystyried cyflawni dwy gyfrol gofiannol arall. Mae hi’n byw ar yr arfordir ym mhen pellaf gorllewin Ceredigion.