Cartref digidol diwylliant Cymru.

Teithio at ddyfodol mwy gwyrdd ym Mhen Llŷn!

Cymuned
Photo of people standing with their bikes in front of a tree

Yr wythnos diwethaf, dan arweiniad Darganfod Llŷn (Discover Llŷn) cafodd grŵp y cyfle i drio beiciau trydan ar daith gyffrous o Fotwnnog i erddi a pherllan hyfryd Plas yn Rhiw.

Roedd yn ddiwrnod cofiadwy i bawb – yn enwedig pan welodd y grŵp ysgyfarnog ychydig droedfeddi i ffwrdd! Roedd bron i bawb wedi’u hysbrydoli i ymuno â Hwb Beicio Pen Llŷn, sydd ond yn £20 y mis – sy’n eich galluogi i fenthyg beic trydan er mwyn darganfod Pen Llŷn o bersbectif gwahanol.

Beth am wneud eich taith i’r gwaith yn wyrdd ac yn iach? Cysylltwch â dafydd.rhys@ynnillyn.cymru am wybodaeth!.

RHANNWCH