Dros dymor yr Hydref bydd cyfres o bodlediadau yn cael eu rhyddhau sy’n cynnwys sgyrsiau gyda rhai o wynebau cyfarwydd Cymru am ups and downs bywyd bob dydd – a sut mae’r celfyddydau a chreadigrwydd yn gallu helpu drwy gyfnodau hapus a heriol.
Prosiect gen i a fy ffrind Tara Bethan yw DEWR, sydd wedi troi cyfnod tawel o ran gwaith yn gyfle i ddysgu sgiliau newydd a chynhyrchu cyfres annibynnol o sgyrsiau agored a phwysig.
Nôl ym mis Mawrth roeddwn yn cychwyn ar yrfa lawrydd yn dilyn cyfnod mamolaeth, wedi bron i ddeng mlynedd yn gweithio fel Prif Swyddog Gŵyl Tafwyl.
Roedd Tara newydd orffen taith theatr lwyddiannus o Llyfr Glas Nebo, ac ar fin cychwyn ffilmio rhaglen newydd i S4C a theithio gyda’i band Lleden.
Ond gyda’r cyfnod clo daeth cytundebau gwaith y ddwy ohonom ni i ben.
Diolch i gynllun gan Gyngor Celfyddydau Cymru i gefnogi gweithwyr celfyddydol llawrydd, fe aeth y ddwy ohonom ni ati i ddatblygu syniad oedd wedi bod yn destun trafod rhyngom ers blynyddoedd… a bellach mae ganddo ni bodlediad i’w rannu gyda’r byd.
Tara sy’n arwain y sgyrsiau, ac mae hi wedi siarad yn agored iawn ei hun am ei phrofiadau o ddelio gyda phroblemau iechyd meddwl dros y blynyddoedd.
Mae creadigrwydd, cerddoriaeth a dawns, ynghyd â hyfforddi i fod yn athrawes yoga allan yn India ac ymgymryd â blynyddoedd o therapi meddylgarwch a Cognitive Behavioural Therapy, wedi chwarae rôl anferth yn ei siwrne i wella.
Ac mae hi wedi mwynhau clywed am brofiadau pobol eraill wrth greu’r podlediad.
“Mae’r sefyllfa od yr ydym ynddi ar y funud wedi bod yn gyfle i ddal fyny gyda nifer o bobl brysur fydda fel arfer ddim ar gael i recordio sgwrs,” eglura Tara.
“Ac wrth reswm, mae llawer yn troi at gelfyddyd i ymdopi gyda’r sefyllfa. Dw i’n teimlo ella bod pobl yn fwy parod i rannu eu profiadau a siarad yn fwy agored am eu teimladau ers y lockdown.”
Roeddem yn awyddus i gyhoeddi cyfres o bodlediadau yn annibynnol, a bod yn rhydd o unrhyw rwystrau golygyddol, ac yn teimlo bod digon o botensial y dyddiau hyn i gyhoeddi cyfresi ar y We yn unig.
Rydym am bwysleisio nad teclyn meddygol yw’r gyfres, ond rhes o sgyrsiau y gall y gynulleidfa uniaethu â nhw. Rydym yn cyfeirio pobl at meddwl.org os am gael gwybodaeth bellach a chyngor arbenigol.