Cartref digidol diwylliant Cymru.

TAMI

Llenyddiaeth

Tami
“Mae wal lliw mwstard a good lighting bedrwm Llŷr yn neud i nghroen i edrych yn rili smooth, fel tase rhywun ’di gorchuddio fi mewn mêl. Dwi’n watsho fy hunan yn datod y botyme i gyd.”

Mae Tami yn un o griw’r Pump, sydd ym Mlwyddyn 11 yn Ysgol Gyfun Llwyd. Ond mae ei chyfeillgarwch gyda’i ffrindiau yn cael ei brofi i’r eithaf gan berson newydd sy’n dod i mewn i’w bywyd…

Dyma ail nofel Y Pump –  cyfres o bum nofel am bum ffrind gan bump awdur a phum chyd-awdur ifanc.
Rhybudd cynnwys: Yn ogystal â themâu ac iaith gref a all beri gofid i rai, mae’n trafod ableddiaeth (ableism) a cheir awgrym o gamfanteisio rhywiol drwy ffotograffau yn y nofel hon.

Mared Roberts 
Mae Mared yn dod o ardal Ceinewydd, Ceredigion. Graddiodd mewn Ffrangeg a Sbaeneg o Brifysgol Caerdydd ac mae bellach yn gyfieithydd. Enillodd y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2019. Hon yw ei nofel gyntaf.

Ceri-Anne Gatehouse
Mae Ceri-Anne Gatehouse yn ysgrifennwr ac yn fardd sydd ar hyn o bryd yn dilyn cwrs gradd BA Drama ac Ysgrifennu Creadigol yn Royal Holloway, Prifysgol Llundain. Mae’n falch iawn o weithio ar nofel sy’n rhoi cynrychiolaeth i bobl ifanc sy’n cael eu tangynrychioli.

Rhagarchebwch y gyfres yma | Pre-order the series here

RHANNWCH