Mae Coco yn weithredydd creadigol, awdur, bardd a model du, anneuaidd; yn creu newid, yn ceisio datgymalu’r stereoteip sydd yn gysylltiedig â’r hyn y mae’n ei olygu i fod yn ‘wahanol’ mewn cymdeithas, a newid beth yw ‘normal’. Bob amser yn defnyddio profiadau personol fel artist, gweithredydd creadigol a cwiar du anneuaidd – yn brwydro yn erbyn stigmas y byd, gan ddangos eu bod yn iawn. Gan ddefnyddio eu llwyfan, celfyddyd a’u hysgrifennu, mae’n archwilio pob agwedd ar farddoniaeth – lafar, weledol ac ysgrifenedig. Yn defnyddio eu llais fel lens ar gyfer gonestrwydd a thryloywder, tra’n achub bywydau. Gan ei fod yn hanfodol gweld pobl ar draws y byd yn ffynnu ac yn teimlo’n rhan o rywbeth, yn bwysig a ddim ar ben eu hunain. Mae Coco’n credu ei fod yn hanfodol parhau i ysbrydoli pobl fel nhw i barhau a dod yn gyfforddus yn byw’n wahanol.