Syniad o Amser – Kathod
Fideo gan Rebecca Wyn Kelly
Wedi’i eni o brosiect Merched yn Gwneud Miwsig, daeth Heledd Watkins a Bethan Mai (Rogue Jones) at ei gilydd i greu cân newydd o bell o dan yr enw Kathod. Cafodd ei chymysgu gan Ani Glass a’i chwarae’n gyntaf ar Radio Cymru cyn rhyddhau ar Bandcamp yn Rhagfyr 2020, gyda phob elw yn mynd at Gymorth i Ferched Cymru. Yn ateb y galw am fideo i gyd-fynd â’r gân oedd Rebecca Wyn Kelly. Artist o Aberarth yw Rebecca, a denodd ein sylw gyda’r syniad fideo yma:
Mae’r fideo wedi’i hysbrydoli gan fenyw o’r enw Mari Berllan Bitter. Fe’i ganed ym 1817, a magwyd ar fferm ynysig ar lan yr afon Arth. Des i’n ymwybodol o Mari pan oeddwn yn saith oed. O ni’n sefyll mewn stafell fyw fy cymdogion, a dywedodd wrthyf fod gwrach, o’r enw Mari, wedi marw yno ar y 4ydd o Dachwedd ym 1898. Roedd gan Mari enw drwg-enwog am ecsentrigrwydd a dewiniaeth ac roedd y bobl leol yn ei ofni. Trwy gydol fy mhlentyndod oedd hoffter niwlog gennai’i i Mari. Llifodd ei hysbryd trwy’r coed lle roeddwn i’n chwarae. Roedd hi’n bresennol ond ddim yn pwyso. Dim ond yn ddiweddar y mae hi wedi dod yn gatalydd ar gyfer rhai pryderon cymhellol rydw i wedi’u datblygu am Aberath. Materion, a genhedlwyd gartref sy’n dod yn faich yn gyflym i bob pentref, tref a dinas ledled y byd. Y pryder bod menywod yn absennol o hanes a hunaniaeth lle. Mae’r protestiadau gwleidyddol parhaus sy’n digwydd ledled y byd yn tanio fy angerdd am yr ymchwiliad hwn. Honiadau amrwd a Visceral yn mynnu darlleniad newydd o hanes. Hanes sy’n cyd-fynd â’r hyn sy’n berthnasol nawr. Mae’r fideo hon yn nodi trobwynt. Dechrau taith i daflu goleuni ar ferched Ceredigion. Mae’n bwysig ein bod ni’n ymwybodol o’n hanes benywaidd, ein bod ni’n dod â menywod y gorffennol i mewn i’r presennol i sicrhau eu bod nhw’n rhan o’r dyfodol.