Cartref digidol diwylliant Cymru.

Straeon Nos Da: Phoebe a’i Phroblem Blastig

Awdur: Rhiannon Lloyd Williams
Darlunydd: Sioned Medi Evans

Cliciwch yma i ddarllen ‘Phoebe a’i Phroblem Blastig’ gyda’r holl ddyluniadau gwreiddiol!

Roedd Phoebe wedi penderfynu bod oedolion y byd yn gwrthod gwrando ar blant.

Eu bod yn gwrthod gwrando pan fyddai Phoebe eisiau bwyta losin yn lle ffrwythau.

Eu bod yn gwrthod gwrando pan fyddai Phoebe eisiau chwarae cuddio yn lle cysgu.

Eu bod yn gwrthod gwrando pan fyddai Phoebe eisiau siarad yn y sinema yn lle bod yn dawel.

A’u bod yn gwrthod gwrando pan roedd Phoebe yn sôn am broblem blastig y byd.

Roedd plastig ym mhobman ac yn difetha’r byd.

Roedd plastig yn y moroedd.

Roedd plastig ar hyd y tiroedd.

Ond yn fwy na dim, roedd plastig yn gorchuddio bron pob darn o fwyd ym mhob archfarchnad. Ac roedd Phoebe wedi cael llond bol.

Felly, roedd Phoebe a’i ffrindiau wedi penderfynu cwrdd yn nhŷ bach twt Phoebe ar waelod ei gardd gefn er mwyn creu cynllun.

Roedd tŷ bach twt Phoebe yn borffor, gyda ffenestri bach coch a drws brown.

Tu mewn i’r tŷ bach twt roedd cegin fach a bwrdd gyda chadeiriau o’i gwmpas. I fyny’r grisiau roedd clustogau patrymog a llyfrau o bob lliw a llun i’w darllen.

Heddiw roedd Phoebe, Nathan, Nel a Joseff yn eistedd o gwmpas y bwrdd. Ynghanol y bwrdd roedd papur a phensiliau lliw.

Roedd hi’n amser cynllwyno.

“Beth am ysgrifennu llythyr at reolwr y wlad?” cynigodd Nathan.

“Na, ni angen gwneud rhywbeth mwy na hwnna,” oedd ateb Phoebe.

“Beth am ddweud wrth bawb yn yr ysgol i beidio defnyddio plastig?” holodd Nel.

“Na, ni angen gwneud rhywbeth mwy na hwnna,” oedd ateb Phoebe.

“Beth am fynd i’r archfarchnad a thynnu’r holl plastig i ffwrdd o’r bwyd?” cynigodd Joseff.

“Syniad gwych!” oedd ateb Phoebe.

Ac i ffwrdd â’r pedwar i’r archfarchnad leol.

Wrth gerdded i mewn i’r archfarchnad crynodd y pedwar wrth weld yr oedolion i gyd yn gweithio yno.

Daliodd y pedwar yn dynn yn nwylo ei gilydd a cherdded yn hyderus i’r man lle’r oedd y bwyd i gyd wedi’u gorchuddio â phlastig.

Un,

dau,

tri…

ac i ffwrdd â nhw i greu llanast.

Aeth Phoebe at y bananas gan rwygo’r plastig gyda’i holl nerth.

Aeth Nathan at y tomatos gan rwygo’r plastig gyda’i holl nerth.

Aeth Nel at y pupur gan rwygo’r plastig gyda’i holl nerth.

Ac yn olaf, aeth Joseff at yr afalau gan rwygo’r plastig gyda’i holl nerth.

Stopiodd yr oedolion yn stond gan syllu’n gegrwth ar yr holl blastig a oedd yn hedfan i bob man.

Dechreuodd yr oedolion redeg ar eu hôl. Ond roedd Phoebe, Nathan, Nel a Joseff llawer rhy gyflym iddynt eu dal.

Rhedodd Phoebe rhwng coesau un tuag at yr eil gyda hufen iâ.

Neidiodd Nathan heibio dau oedolyn tuag at yr eil gyda llyfrau.

Rholiodd Nel rhwng coesau un arall tuag at yr eil gyda dillad.

A brasgamodd Joseff o dan freichiau un tuag at yr eil gyda pizza.

Roedd y pedwar ohonynt yn rhydd i greu mwy o lanast … a dyna beth ddigwyddodd.

Sylwodd y pedwar ar y plastig a oedd yn dal i fod o’u cwmpas ac felly dechreuon nhw daflu mwy a mwy o blastig o gwmpas y lle nes iddynt greu pentwr anferth o blastig a oedd yn dalach na’r un ohonynt.

Ond yna, daeth rheolwyr yr archfarchnad atynt.

“Beth allwn ni ei wneud er mwyn stopio chi rhag gwneud mwy o lanast?” holodd un o’r rheolwyr.

“Stopiwch ddefnyddio plastig!” bloeddiodd y pedwar gyda’i gilydd.

“Iawn,” oedd ateb syml y rheolwyr.

Er mwyn dangos roedd pawb yn gytûn poerodd pawb ar gledr eu llaw ac ysgwyd dwylo.

Wythnos yn ddiweddarach, aeth Phoebe, Nathan, Nel a Joseff yn ôl i’r archfarchnad i weld bod pob darn o blastig wedi mynd.

Rhedodd y pedwar o gwmpas yr archfarchnad yn hapus i gyd heb wneud yr un llanast y tro yma!

RHANNWCH