Cartref digidol diwylliant Cymru.

Straeon Nos Da: Dysgu yn y Den

Cliciwch yma i ddarllen ‘Dysgu yn y Den’ gyda’r holl ddyluniadau gwreiddiol!

Roedd Efa Grug yn chwech oed, a’r disgybl hynaf ym Mlwyddyn Un yn Ysgol y Santes Fach.

Ond, roedd Ysgol y Santes Fach wedi cau ei drysau am nawr – er nad oedd hi’n amser gwyliau – ac roedd pawb angen aros adref yn lle.

Doedd Efa Grug ddim wir yn deall beth oedd y rheswm dros yr holl halibalŵ, dim ond ei bod hi’n bwysig IAWN bod pawb yn golchi eu dwylo. Er, roedd hyn yn rhywbeth roedd Efa Grug yn ei wneud ta beth (pwy fuasai ddim?!).

Roedd yr amgylchiadau newydd yn golygu bod Efa Grug angen aros adref gyda’i rhieni!

Roedd Efa Grug ychydig yn drist oherwydd roedd y rheolau newydd yn golygu na fyddai’n cael chwarae gyda’i ffrindiau am sbel.

Roedd Efa Grug am weld eisiau rhedeg a chwerthin gyda’i ffrindiau o gwmpas cae chwarae’r ysgol.

Ond, roedd gan rieni Efa Grug syniad gwych i wneud eu merch fach yn hapus eto…

Heddiw, roedd Efa Grug a’i rhieni am adeiladu Den Dysgu.

Casglodd Mam Efa y blancedi i greu to’r den, casglodd Efa Grug y clustogau i greu llawr y den, a chasglodd Dad Efa ei drôns lliwgar i’w roi i chwifio oddi ar do’r den!

Unwaith roedd y tri wedi creu’r Den Dysgu yn yr ystafell fyw roedd hi’n amser dysgu am Tegwen – y dylwythen deg ddireidus.

Eisteddodd y tri ohonynt ar glustog yr un gan wneud eu hunain yn gyfforddus, cyn i Fam Efa Grug ddechrau’r stori trwy ddweud:

Roedd Tegwen, y dylwythen deg ddireidus, yn adnabyddus iawn ar hyd y deyrnas am gymryd dannedd plant bach heb adael yr un rhodd o dan eu clustogau!

Byddai plant bach Cymru’n deffro’n gyffrous i weld sawl ceiniog roedd y dylwythen deg wedi’i gadael… ond yn siomi wrth weld bod dim byd o dan eu clustogau!

Parhaodd Dad Efa Grug gyda’r stori trwy ddweud:

Ond, newidiodd popeth pan gollodd Tegid un o’i ddannedd blaen.

Roedd Tegid mor gyffrous ynghylch colli ei ddant cyntaf roedd e’n poeni na fyddai’n gallu cysgu’r noson honno.

Yn lle, caeodd Tegid ei lygaid gan esgus cysgu.

Felly, pan ddaeth Tegwen, y dylwythen deg ddireidus i mewn i ystafell wely Tegid, sylwodd Tegid ar Tegwen yn cymryd ei ddant heb adael yr un geiniog ar ôl.

Neidiodd Tegid allan o’i wely gan gau ffenest yr ystafell yn glep fel nad oedd modd i Tegwen ddianc.

Roedd Efa Grug ar bigai’r drain eisiau gwybod beth oedd yn digwydd nesaf.

“Dewch ’mlaen! Beth sy’n digwydd nesaf?” holodd Efa Grug.

“Wel, fel mae pawb yn gwybod, mae unrhyw un sy’n gweld tylwythen deg yn cael gwneud un dymuniad,” eglurodd Mam Efa wrthi.

Felly, rhoddodd Tegwen un dymuniad i Tegid.

“Hoffet ti wybod beth oedd dymuniad Tegid?” holodd Dad Efa.

Roedd Efa Grug yn rhy gyffrous i siarad ac yn lle nodiodd ei phen yn frwd!

Yn ôl ei rhieni, roedd Tegid wedi dymuno bod Tegwen, y dylwythen deg ddireidus, angen gadael un o’r rhoddion mwyaf gwerthfawr o dan glustogau plant bach Cymru o hynny ymlaen… sef dwst aur y tylwyth teg!

Parhaodd ei rhieni trwy egluro bod dwst aur y tylwyth teg yn hudol dros ben.

“Achos os wyt ti byth yn dod ar draws dwst aur y tylwyth teg fe gei di un dymuniad a bydd rhaid i’r tylwyth teg ei wireddu!” cyhoeddodd Mam Efa Grug.

Cyn i Efa Grug ymateb, clywodd y tri ohonynt dincial ysgafn a golau llachar yn hedfan o do’r den ac allan trwy’r ffenest. Wrth i’r golau bach llachar adael y den, gorchuddiwyd Efa Grug mewn dwst aur.

Roedd dwst aur Tegwen, y dylwythen deg ddireidus, wedi cwympo dros Efa Grug!

“Gwna ddymuniad,” dywedodd ei rhieni mewn unsain.

Caeodd Efa Grug ei llygaid yn dynn a dymunodd y byddai’n gallu gweld ei ffrindiau o Ysgol y Santes Fach yn fuan eto.

Y prynhawn hwnnw, ar ôl dysgu am gorachod, cewri, gwrachod a dewiniaid, cerddodd Efa Grug a’i rhieni i lawr y stryd am ychydig o awyr iach.

Wrth gerdded, sylwodd Efa Grug ar sawl darlun pert o enfysau yn ffenestri’r tai. Yn sefyll o dan rhai o’r lluniau o enfysau y tu mewn i’w tai roedd ffrindiau Efa Grug.

Trodd Efa Grug at ei mam gan floeddio,

“Mae’r dymuniad wedi dod yn wir! Rydw i wedi gallu gweld fy ffrindiau eto!”

Er efallai nad oedd hi’r union ffordd roedd Efa Grug wedi dychmygu gweld ei ffrindiau o Ysgol y Santes Fach unwaith eto, roedd hi’n fwy na hapus yn chwifio atynt o balmant y stryd.

Chwifiodd Mam Efa Grug ar ffrindiau Efa hefyd gan ddweud,

“Diolch byth am bŵer y tylwyth teg!”

Cofia os weli di ddarlun o enfys mewn ffenest: chwifia at y plentyn y tu mewn i’r tŷ. Ond yn bwysicach na hynny, paid byth ag anghofio chwilio am ddwst aur y tylwyth teg…

RHANNWCH