Cartref digidol diwylliant Cymru.

Straeon Nos Da: Diflaniad Miss Daniels

Cliwciwch yma i ddarllen ‘Diflaniad Miss Daniels’ gyda’r dyluniadau gwreiddiol!

Athrawes dosbarth derbyn yn Ysgol Glan-y-Pant oedd Miss Daniels.

Roedd pawb yn hoffi Miss Daniels, gan gynnwys pob un o’r disgyblion.

Roedd gan Miss Daniels wên gynnes oedd yn codi calon pawb. Roedd hefyd ganddi wallt hir, hir, hir a oedd yn cael ei glymu’n ôl â rhuban porffor. Bob dydd byddai Miss Daniels yn gwisgo sbectol borffor a oedd yn gwneud i’w llygaid brown edrych yn enfawr. Ac oherwydd y sbectol yma, roedd Miss Daniels yn gallu gweld popeth, hyd yn oed Ben yn pigo’i drwyn.

Hi oedd yr athrawes orau yn yr ysgol o bell ffordd, yn enwedig pan fyddai’n rhoi losin i’r disgyblion bob brynhawn Gwener.

Ar un fore Mawrth diflas casglodd Miss Daniels disgyblion dosbarth derbyn Ysgol Glan-y Pant at ei gilydd ar y carped darllen.

Roedd hi’n amser stori a heddiw, am y tro cyntaf, roedd Miss Daniels am ddarllen llyfr o’r
enw Y Llyfr Llyncu. Stori ydoedd am fachgen, o’r enw Dylan, sy’n cael ei lyncu i mewn i lyfr – ac roedd pawb yn edrych ymlaen at glywed y diweddglo!

Cliriodd Miss Daniels ei gwddf yn ddramatig cyn dechrau darllen y stori,

“Un diwrnod, roedd Dylan yn chwarae yn atig ei Nain a Taid pan ddaeth o hyd i lyfr porffor. Chwythodd y dwst oddi ar glawr y llyfr i weld teitl y llyfr, sef Y Llyfr Llyncu. Agorodd Dylan y llyfr ac mewn fflach, fflop a ffrat diflannodd Dylan i mewn i’r llyfr.”

Wrth i Miss Daniels barhau i ddarllen y stori dechreuodd mẁg gwyrdd ymddangos.

Yn sydyn, roedd fflachiadau porffor a sŵn hisian yn dod o’r llyfr, ac yna BANG!

Un eiliad roedd Miss Daniels yn darllen y stori a’r eiliad nesaf roedd y llyfr wedi cwympo i’r llawr a dim golwg ohoni hi yn un man.

Dechreuodd plant dosbarth derbyn Ysgol Glan-y-Pant chwilio ymhob twll a
chornel amdani.

O dan y byrddau. O dan y cadeiriau. Tu ôl y bwrdd gwyn. Tu ôl y silff lyfrau. Ac hyd yn oed o dan y sinc…ond doedd dim golwg ohoni o hyd.

Roedd Miss Daniels wedi cael ei llyncu i mewn i’r llyfr!

Edrychodd pawb yn ddryslyd. Doedd neb yn gwybod beth oeddech chi fod i’w wneud pan roedd eich hathrawes wedi cael ei llyncu i mewn i lyfr.

“Beth am gael parti?” holodd Ben.

“Ond sut allwn ni gael parti heb Miss Daniels? Does dim cacen yma hyd yn oed!” eglurodd Manon.

“Ond beth arall allwn ni ’neud?!” atebodd Ben.

“Beth am weld sut mae Dylan yn dod allan o’r llyfr?” cynigodd Mari.

Yn ôl y stori, yr unig ffordd o gael Miss Daniels allan o’r llyfr oedd trwy adeiladu fersiwn ohoni.

Felly, dechreuodd disgyblion dosbarth derbyn Ysgol Glan-y-Pant gasglu pethau o bob lliw a llun ar frys i greu eu fersiwn nhw o Miss Daniels.

Casglodd Mari focs glud ar gyfer ei thraed.
Casglodd Ben glustog ar gyfer ei bol.
Casglodd Manon fop ar gyfer ei gwallt.
A chasglodd Mari bensiliau lliw porffor ar gyfer ei sbectol.

Cyn pen dim roedd yna rywbeth a oedd yn edrych yn debyg i Miss Daniels yn eistedd ar y gadair o flaen y plant.

Ond roedd dal dim golwg o’r Miss Daniels go-iawn.

Yr unig beth ar ôl i’w wneud oedd croesi eu bysedd a chau eu llygaid yn dynn, dynn gan obeithio eu bod wedi gwneud digon i ddod â’u hoff athrawes yn ôl.

Yn sydyn, roedd yna fẁg gwyrdd a fflachiadau porffor yn gorchuddio’r gadair, ac yna
BANG!

Cyn i unrhyw un wneud yr un smic ymddangosodd Miss Daniels o’r mẁg.

Bloeddiodd y disgyblion yn hapus “Hwreeee!”

Roedd dosbarth derbyn Ysgol Glan-y-Pant wedi llwyddo i achub Miss Daniels rhag Y Llyfr
Llyncu.

Y diwrnod hwnnw, er nad brynhawn Gwener oedd hi, cafodd bob un ohonynt losin am eu hymdrechion arwrol.

RHANNWCH