Roedd Deiniol y dewin yn ddoniol dros ben.
Roedd jôcs Deiniol yn gwneud i bawb chwerthin llond eu boliau.
Bob bore, ar ei ffordd i’r ysgol, byddai Deiniol yn dweud jôc gan wneud i’w dad chwerthin. Weithiau byddai ei dad yn crio chwerthin am fod jôcs Deiniol mor ddoniol.
Bob amser cinio, ar gae chwarae’r ysgol, byddai Deiniol yn dweud jôc gan wneud i weddill y disgyblion chwerthin. Weithiau byddai’r plant yn chwerthin am weddill y diwrnod am fod jôcs Deiniol mor ddoniol.
Bob nos, ar ei ffordd i’r gwely, byddai Deiniol yn dweud jôc gan wneud i’w fam-gu chwerthin. Weithiau byddai ei fam-gu angen eiliad neu ddwy er mwyn iddi ddal ei hanadl ar ôl yr holl chwerthin am fod jôcs Deiniol mor ddoniol. Doedd dim diwedd ar jôcs doniol Deiniol.
Un o hoff jôcs Deiniol oedd:
Pwy ydych chi’n galw pan mae Taid mewn angen?
Nain, Nain, Nain.
Un o hoff jôcs Bella y gwningen, sef anifail anwes y teulu, oedd:
Beth yw hoff gerddoriaeth deintydd?
Cerdd Dant.
Ac un o hoff jôcs y dyn lolipop lleol oedd:
Pryd mae defaid yn cael eu pen-blwydd?
Fis Meeeeeedi.
Roedd pawb yn Nheyrnas Dimlle yn hoffi clywed jôcs Deiniol y dewin.
Ond, roedd yna hunllef ofnadwy wedi cyrraedd Deyrnas Dimlle.
Roedd y brenin heb wenu ers dros wythnos ac roedd pawb yn poeni amdano. Er mwyn trio gwella’r sefyllfa roedd gweision y brenin wedi trefnu cystadleuaeth i drio gwneud i’r brenin wenu eto.
Cyhoeddwyd bod y gystadleuaeth yn agored i bawb.
Yn bwysicach na hynny, pwy bynnag a fyddai’n llwyddo’n gyntaf i wneud y brenin wenu a fyddai’n ennill gwobr o’i ddewis. Roedd pawb yn y deyrnas wedi clywed am y gystadleuaeth ac roedd pawb eisiau cystadlu, gan gynnwys Deiniol.
Y bore hwnnw agorwyd drysau’r palas. Roedd gweision y brenin yn ysu i wahodd pawb trwy
ddrysau’r palas i’r neuadd fawr yn y gobaith y byddai rhywun yn gallu gwneud i’r brenin
wenu eto.
Roedd y brenin yn eistedd yn ei sedd grand ynghanol y neuadd fawr, yn barod i weld a fyddai unrhyw un yn gallu rhoi gwên ar ei wyneb eto.
Roedd y ciw o bobl a oedd yn aros i drio gwneud y brenin wenu yn un hir dros ben.
Roedd y ciw mor hir roedd yna linell droellog o bobl yn mynd yr holl ffordd o’r palas i’r pentref. Deiniol oedd yr olaf yn y ciw.
Ar ôl diwrnod cyfan o aros roedd Deiniol, o’r diwedd, wedi cyrraedd blaen y ciw!
Ar ôl yr holl aros, roedd hi nawr yn amser i Deiniol ddangos ei dalent i bawb. Roedd pawb o flaen Deiniol wedi bod yn aflwyddiannus yn eu hymdrechion i wneud y brenin wenu eto.
Doedd neb wedi bod yn ddigon doniol i’r brenin. Ond roedd hynny ar fin newid…
Roedd Deiniol yn teimlo’n nerfus dros ben. O bawb yn y deyrnas, Deiniol oedd yr unig un oedd ar ôl i drio helpu’r brenin ac achub y deyrnas.
Anadlodd Deiniol yn ddofn cyn dechrau siarad yn araf ac yn glir.
Dechreuodd Deiniol gyda’r jôc:
Beth sy’n oren a du ac yn mynd i fyny ac i lawr?
Sali Mali mewn lifft.
Gwelodd Deiniol ochrau ceg y brenin yn symud ychydig. Rhoddodd hyn hwb i hyder Deiniol ac aeth ymlaen i ddweud jôc arall:
Pam bod gwddf jiráff mor hir?
Am fod ei draed yn drewi.
Roed un ochr ceg y brenin wedi dechrau codi. Roedd y brenin mor agos i wenu eto.
Parhaodd Deiniol gyda’i jôcs wrth ddweud:
Pam bod y bara yn sâl yn y bore?
Am ei fod yn dost.
Erbyn i Deiniol orffen ei jôc olaf roedd y brenin yn gwenu o glust i glust ac yn chwerthin llond ei fol.
Roedd Deiniol wedi achub y dydd ac achub Deyrnas Dimlle!
Roedd Deiniol hefyd wedi ennill y gystadleuaeth ac yn cael dewis beth bynnag roedd e eisiau fel gwobr. Roedd pawb yn ysu i weld beth fyddai Deiniol yn ei ddewis fel gwobr.
Penderfynodd Deiniol ei fod e eisiau ffon hud newydd.
O’r diwrnod hynny ymlaen, roedd Deiniol yn gallu gwneud yr holl driciau yn y byd i gyd gyda’i ffon hud newydd.
Ond, yn fwy na hynny, roedd Deiniol yn cael ei adnabod fel y dewinmwyaf doniol yn y byd i gyd.
HWRE!
.