Cartref digidol diwylliant Cymru.

‘Siarad wedyn’: Gentle/Radical yng ngwobr y Turner

Ers sbel dwi wedi teimlo bod rhywbeth annigonol am ddefnyddio’r gair ‘ymafer, y gair ‘practis’ hefyd, neu hyd yn oed ‘arfer’, wrth drafod gwaith artistiaid trwy gyfrwng y Gymraeg; mae’n orddibynnol ar y Saesneg, ac yn lletchwith ar y tafod. Ond yn y lletchwithdod hwn, amlygir i mi ryw wirionedd am rôl celf gyfoes Gymreig. Mae profi syniadau’n gyhoeddus a chyflwyno gwaith anghyflawn yn teimlo’n elfen ganolog o’n bywyd celfyddydol yma yng Nghymru, fallai mewn ffordd nad yw mor nodweddiadol o gelf diwylliannau mwyafrifol. Y mae i lawer o’n gwaith celfyddydol mwyaf blaenllaw ymdeimlad o ddiwylliant ar waith, diwylliant yn cael ei ‘ymarfer’: arbrofir ag amrywiol strategaethau i gyfleu natur byw mewn cenedl sydd mewn cyflwr anffurfiedig parhaol, a’r gwaith o ddychmygu ei dyfodol yn pwyso ar bob dim a grëir ac a wneir.

Cynhelir arddangosfa gwobr Turner eleni yn yr adeilad trawiadol a godwyd wedi’r rhyfel sy’n gartref heddiw i amgueddfa Herbert yn Coventry. Y peth cyntaf a welir wrth gerdded i mewn drwy’r drws yw chwe lliain bwrdd gwyn yn hongian yn gymesur ar y wal ar eich llaw chwith. Arnynt, mae pytiau o Weddi’r Orsedd, wedi’u chwyddo a’u gosod mewn ffont aur, gan roi statws amwys o fawreddog i eiriau cyfarwydd Iolo Morganwg:

Ac yn nawdd, nerth,
Ac yn nerth, deall,
Ac yn neall, gwybod,
Ac yng ngwybod, gwybod y cyfiawn,
Ac yng ngwybod y cyfiawn, ei garu,
Ac o garu, caru pob hanfod …

Dyma breliwd tyner cywaith Gentle/Radical, y mudiad celfyddydol llawr gwlad o ardal Riverside yng Nghaerdydd, ar gyfer eu hadran nhw o’r arddangosfa Turner eleni. Dyma’r Cymry cyntaf i gael enwebiad am y wobr er James Richards yn 2014, a dyma’r tro cyntaf iddynt greu gwaith ar gyfer cyd-destun arddangosfa debyg i hon. Hyd yma, digwyddiadau, sgyrsiau, grwpiau ffilm a darllen, a chydweithio gyda mudiadau eraill yw’r cyweiriau sydd wedi diffinio’u gwaith, gan ennill digon o sylw iddynt gyrraedd llwyfan mwyaf y diwydiant celf gyfoes ym Mhrydain.

Darllenwch yr adolygiad yn llawn ar wefan pedwargwynt.cymru.

RHANNWCH