Rywbryd yn ystod fy arddegau cynnar, llwyddodd fy mrawd i gael gafael ar chwaraewr recordiau o rywle, a’i osod yn ei ystafell wely. Ro’n i’n llawn cyffro ynghylch y datblygiad hwn, gan fod stôr o recordiau feinyl oedd yn eiddo i fy rhieni yn sydyn iawn ar gael i ni wrando arnyn nhw. Roedd hyn cyn dyddiau ffrydio cerddoriaeth, a byddai’r cyfyngiad ar yr opsiynau gwrando’n ein cymell ni i fforio a darganfod a gwrando ar bob modfedd o’r stac feinyl.
Wrth gwrs – fy mrawd oedd yn cael dewis y record bob tro, fel y mae hierarchiaeth brodyr mawr a bach yn datgan. Ond, serch hynny, ro’n i’n hapus i eistedd a gwrando, naill ai drwy’r wal, neu yn ei stafell ef. Rwy’n credu mai’r unig dro i mi gael fy nghyffroi cymaint fel bod rhaid i fi fynd drws nesaf i’w holi beth oedd yn ei chwarae oedd yn ystod ail hanner albym Bob Dylan, Bringing It All Back Home, pan glywais i ‘It’s Alright, Ma (I’m Only Bleeding)’ am y tro cyntaf. Doeddwn i erioed wedi clywed unrhyw beth tebyg o’r blaen. Y riff yn ailadrodd ar ddiwedd pob pennill, llafarganu llawn agwedd ac odlau mewnol cymhleth oedd fel rhyw fath o proto-rap. Ro’n i wedi fy nghyfareddu.
Mae’r gân honno’n fy nghyfareddu o hyd. I ddechrau, dim ond clywed a deall ambell ddywediad oeddwn i: ‘the handmade blade, the child’s balloon’ neu ‘even the President of the United States sometimes must have to stand naked’, ac yn y blaen. Ymhlith y delweddau digyswllt hyn roedd fflachiadau o wirioneddau mawr wnaeth aros a phlannu eu hunain yn fy ymwybyddiaeth, ac ymledu fel rhyw dyfiant. Daethon nhw’n rhywbeth yr oeddwn i’n gallu eu cymhwyso i fy mywyd personol. Un o’r llinellau arhosodd yn y co’ oedd yr hynod, ‘while money doesn’t talk, it swears’.
Darllenwch yr ysgrif hon yn llawn, yn rhad ac am ddim, ar wefan pedwargwynt.cymru.
Bu Sioned Puw Rowlands yn cyfweld â Dyfan Maredudd Lewis ynghylch ei gyfrol o ysgrifau, Amser Mynd (Gwasg Pelydr, 2020), sy’n ffrwyth cyfnod estynedig yn teithio yng ngwledydd De-ddwyrain Asia. Darllenwch y sgwrs, YMA.