Yn ystod cynulliad GwyrddNi ym Mhen Llŷn cafwyd sgwrs fyw (o gwch!) gyda’r pysgotwr masnachol Siôn Williams. Un o Sarn Mellteyrn ydi Siôn, mae ganddo gwch ym Mhorth Colmon a chewyll ar hyd arfordir Llyn oddi yno i gyfeiriad Enlli. Gyda dyfodiad y cyfnod clo a Brexit, bu’n datblygu marchnad newydd i’w gynnyrch bwyd môr yn Llundain. Mae ganddo ddiddordeb a gwybodaeth eang am gynefin y môr a bu’n cydweithio gyda Phrifysgol Bangor i fonitro newidiadau morol ac ecolegol.
Gallwch ddarllen trawsgrifiad o’r sgwrs gyda Siôn yn Gymraeg yma ac yn Saesneg yma.