Cartref digidol diwylliant Cymru.

Sgwennwyr ifanc i Popeth ar y Ddaear

Cyfle i dri awdur ifanc ymuno â thîm creadigol Popeth Ar Y Ddaear, cynhyrchiad newydd a gaiff ei berfformio ym Maes B a chlybiau nos dros Gymru yn 2021-22.

SGWENNWYR IFANC I GYNHYRCHIAD NEWYDD

Galwad Agored am Awduron 18-30 oed
Dyddiad Cau: 28 Awst 2020

Cyfle i dri awdur ifanc ymuno â thîm creadigol Popeth Ar Y Ddaear, cynhyrchiad newydd a gaiff ei berfformio ym Maes B a chlybiau nos dros Gymru yn 2021-22.

– Cyfle i ennill gwobr o £750 yr un i ysgrifennu deunydd
– Derbyn hyfforddiant gan Vanessa Kisuule, ymarferydd perfformio barddoniaeth (spoken word) proffesiynol
– Penwythnos preswyl yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd rhwng 18 – 20 Medi eleni

Rydym yn benodol yn chwilio am leisiau ffresh, lleisiau sydd ar hyn o bryd yn cael eu tangynrychioli yng Nghymru – boed o gefndiroedd Du, Asiaidd a lleiafrif ethnig, yn byw ag anableddau neu o gefndir incwm isel.

Mewn partneriaeth ag Eisteddfod Genedlaethol Cymru a Llenyddiaeth Cymru, bydd y prosiect hwn yn digwydd drwy gyfrwng y Gymraeg, ond croesawn ddysgwyr a siaradwyr ail-iaith.

franwen.com/sgwennwyrpaydd/

RHANNWCH