Cartref digidol diwylliant Cymru.

‘Road Trip’, Marvin Thompson (Peepal Tree Press)

Llenyddiaeth

Dyma gyfrol gan fardd â straeon diddanol a goleuedig, a chrefft fedrus mewn cyfrwng sydd yn draddodiadol ac yn gyfoes. Llwydda i gydlynu’r holl brofiadau o lefydd ac amser mewn ffyrdd ffres a dadlennol. Archwilia wendidau hil ac ymerodraeth drwy ddadorchuddio a dychmygu straeon am gyfnod ei Dad â Byddin Prydain. Yn ei gerddi, myfyria Marvin Thompson ar dirwedd ôl-ddiwydiannol Cymru, a cwestiyna os mai dyma’r lle i fagu ei blant. Ond, ni ddylid cymryd yn ganiataol fod y cerddi hyn yn ffeithiol gywir. Defnyddia soned, filanél wedi ei addasu, a dilyniannau sestina, er mwyn adrodd straeon hynod gyfoes. Mae ganddo lygad adfywiol, chwilfrydig a gonest sydd yn troi’r arferol yn arbennig ac unigryw, â gweledigaeth argyhoeddiadol o bosibilrwydd a dyrchafol.

Ganed MARVIN THOMPSON yn Llundain i rieni Jamaicaidd, ac mae erbyn hyn yn dysgu Saesneg yn ne Cymru. Mae ganddo Radd Meistr mewn Ysgrifennu Creadigol, ac roedd yn un o feirdd a ddewiswyd gan Nine Arches Press ar gyfer eu cynllun mentora Primers 2. Yn 2019, cafodd ei gerdd hudol-wir am y rhyfel ei ddewis gan y Long Poem Magazine ar gyfer gwobr y Forward Prize am y Gerdd Orau.

RHANNWCH